Pan fo difrod dros y ddaear, A thrallodau'n fwy na rhi, Diolch iti, Iesu hawddgar, Fod tangnefedd ynot ti; Dafn o hono Dry ofidiau yn fwynhad. Blino'r wyf ar anwadalwch Addewidion goreu'r byd, Cysgod yw eu holl ddiddanwch O fy mlaen yn ffoi o hyd; Digyfnewid Yw tangnefedd Iesu mawr. Pan fo calon lawn o hiraeth Yn ymdroi yn niwl y glyn, A chymylau siomedigaeth Yn gorchuddio gobaith gwyn, Yn Dy gwmni Daw goleuni yn yr hwyr. O Dy drigfan anweledig Tyred, Iesu, ataf fi; Os yw'r drysau yn gauedig Nid yw hynny'n ddim i Ti, Gād im' wledda Ar Dy felys eiriau mwy.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 878747] |
When there is destruction across the earth, And afflictions more than number, Thanks to thee, beautiful Jesus, That there is peace in thee; A drop of this Turns griefs into enjoyment. Grieved I am at the inconstancy Of the best promises of the world, A shadow is all their comfort Before me fleeing always; Unchangeable Is the peace of great Jesus. When the heart is full of longing Loitering in the fog of the vale, With the clouds of disappointment Covering bright hope, In thy company Light shall come in the evening. From thy unseen dwelling-place Come, Jesus, to me; If the doors are locked This is nothing to thee, Let me feast On thy sweet words evermore.tr. 2020 Richard B Gillion |
|