Pan gyfyd y gwintoedd yn uchel

(Fy mŵa'n y cwmwl a fydd)
Pan gyfyd y gwintoedd yn uchel,
  A'r cymyl yn llwythog o wlaw,
Yr adar yn cilio i'w celloedd,
  A'th galon yn egwan gan fraw;
Na âd i anobaeth dy drechu,
  Na syfled un storom dy ffydd,
I'th gynnal ynghanol y cyfan,
  Fy mŵa'n y cwmwl a fydd,
I'th gynnal ynghanol y cyfan,
  Fy mŵa'n y cwmwl a fydd.

Pan deimli dy draed yn yr afon,
  Dy enaid yn ofnus a gwan,
Rhuthriadau y dyfroedd yn gryfion,
  A thwyllwch yn cuddio y lan;
ynghanol y cyfan, da cofio,
  Yn dilyn y nos daw y dydd;
Er sicrwydd o lŵ yr addewid,
  Fy mŵa'n y cwmwl a fydd,
Er sicrwydd o lŵ yr addewid,
  Fy mŵa'n y cwmwl a fydd.
William John Parry 1842-1927

Tôn [9898D+98]: Fy mŵa'n y cwmwl a fydd
    (1869 D Emlyn Evans 1843-1913)

(My bow in the cloud shall be)
When the winds rise high,
  And the clouds are loaded with rain,
The birds retreat to their cells,
  And thy heart is weak with fright;
Do not let hopelessness overcome thee,
  Neither let one storm shift thy faith,
To support thee in the middle of it all,
  My bow in the cloud shall be,
To support thee in the middle of it all,
  My bow in the cloud shall be.

When thou dost feel thy feet in the river,
  Thy soul fearing and weak,
The roarings of the waters strong,
  And darkness hiding the shore;
In the middle of it all, remember well,
  Following the night comes the day;
For the sureness of the oath of the promise,
  My bow in the cloud shall be,
For the sureness of the oath of the promise,
  My bow in the cloud shall be.
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~