Pechadur wyf a redodd Yn gyflym tua'r tān, Trugaredd rad a redodd Gyflymach o fy mla'n; Ymleddais ā thrugaredd, Ni fyn'swn gwympo'i lawr; Trugaredd ga'dd y trechaf, 'Rwy'n foddlon ddigon 'nawr. Ond b'asai fod trugaredd Yn drech nā'm nwydau oll, Ystruan dan y felldith Buaswn byth ar goll; Can's uffern oedd fy haeddiant A'm gwyneb yno oedd; Ond rhad drugaredd frysiodd, Fy nghefn arni trodd. Mi garaf Duw'r drugaredd A'm carodd i mor rad, Gan ddwyn y fath afradlon I fyw i dŷ ei Dad; Teyrnased ei drugaredd Byth yn fy enaid cu, Nes delo'r awr i'w foli Yn Salem dawel fry.Joseph Harris (Gomer) 1773-1825 Casgliad o Hymnau (Joseph Harris) 1824
Tonau [7676D]: |
A sinner am I who ran Fast towards the fire, Free mercy ran Faster before me; I fought with mercy, I resisted falling down; Mercy got the upper hand, I am sufficiently content now. But it would be that mercy was Mightier than all my lusts, A wretch under the curse I would forever be lost; Since hell was what I deserved And that is what I was facing; But free mercy rushed, My back upon it it turned. I love the God of mercy Who loved me so freely, Leading such a prodigal To live in the house of his Father; May his mercy reign Forever in my dear soul, Until the hour come to praise him In quiet Salem above.tr. 2021 Richard B Gillion |
|