Pererin egwan ar ei daith, Yn dwyn y groes am dymor maith, Pan ar ddiffygio, dyma'r iaith, "Iesu, 'Ngwaredwr." Pan gael ei demtio pwysai ef, Am nerth yn ol y dydd o'r nef, Y'mhob cyfyngder coda'i lef, "Iesu, 'Ngwaredwr." Pan yn y rhyfel yn llesgau, Ac mewn caledi yn gwanhau, Y meddwl hyn wnai ei gryfhau, "Iesu, 'Ngwaredwr." O Arglwydd grasol, dal fi'n gry', Ar hyd y daith drwy'r anial du, A chanaf byth 'nol cyraedd fry, "Iesu, 'Ngwaredwr."cyf. Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) 1844-1905 Odlau'r Efengyl 1891 [Mesur: 8885] |
A weak pilgrim on his journey, Bearing the cross for a long season, When about to fail, this is the language, "Jesus, my Saviour." When being tempted he would lean For strength after the day from heaven, In every strait he lifts his cry, "Jesus, my Saviour." When in the battle fainting, And in hardship weakening, This thought would strengthen him, "Jesus, my Saviour." O gracious Lord, hold me strongly, Along the journey through the black desert, And I shall sing forever after arriving above, "Jesus, my Saviour."tr. 2023 Richard B Gillion |
|