Pwy sy'n dod i Salem dref? Iesu'n Llywydd: Taenwn ar ei lwybrau ef Gangau'r palmwydd; Rhoddwn iddo barch a chlod Mewn Hosanna; Atom ni mae heddiw'n dod Haleliwia! Pwy sy'n dod drwy byrth y bedd Yn orchfygwr? Iesu Grist, Tywysog hedd, Ein Gwaredwr: Mae ei fryd ar wella'r byd O'i ddoluriau; Rhoddwn iddo oll ynghyd Ein calonnau. Er i holl delynau'r nef Ei glodfori, Hyfryd iddo ef yw llef Plant yn moli: Dewch â'r palmwydd, dewch â'r gân Byth i'r Iesu, Unwn gyda'r dyrfa lân I'w foliannu.Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul 1930 Tôn [7474D]: Marian (Caradog Roberts 1878-1935) |
Who is coming to Jerusalem town? Jesus our Leader: Let us spread on his paths Branches of the palm trees; Let us render unto him reverence and acclaim In Hosanna; To us today he is coming Hallelujah! Who is coming through the gates of the grave As conqueror? Jesus Christ, the Prince of peace, Our Deliverer: His intent is on healing the world From its sorrows; Let us render unto him all together Our hearts. Although all the harps of heaven Extol him, Delightful it is unto him is the cry Of children praising: Come with the palms, come with the song Forever to Jesus, Let us unite with the holy throng To praise him.tr. 2025 Richard B Gillion |
|