1,2,3,6; 1,2,3,(4,5),6,7. Pwy ydyw hon sy'n llesg a gwan, O'r anial fyd yn d'od i'r lann? Gan faint ei bai blinedig yw, Yn pwyso ar ei 'nwylyd gwiw. Dyma y pererinion hŷ' Achubwyd o ddyfnderoedd du; Dan Sinai fe'u cynnaliwyd hwy, Pa elyn a'u gorchfyga mwy. Er cael eu herlid yma o hyd, A'u llwyr ddirmygu gan y byd; Mae'u henw da eu parch a'u bri, Y'nghadw yn y nefoedd fry. Galarwyr Sïon sydd yn awr Yn griddfan yn y cystudd mawr, Na wylwch mwy, mae n'wyddion llawn, A wna'ch calonau lawen iawn. Treuliwn ein dyddiau bellach byth, Mewn un llawenydd pur dilyth; Cofiwn d'Enw, a seiniwn glôd, Tra byddo'r nefoedd wen mewn bod. Y'mhen rhyw oesoedd rif y gwlith. Ni flina'r saint dy garu byth; A blas o'r newydd iddynt hwy, Fydd canu am dy farwol glwy'. Dyma hwy'r gadwedig hil, A gadwyd ar y llwybr cul; Blaen-ffrwyth y dyrfa ddaw trwy ras, O'r cystadd mawr a'r anial cas.Grawn-Sypiau Canaan 1805
1,2,3,4,5,(6,7,8),9. O pwy yw hon sy'n llesg a gwan, O'r anial fyd yn d'od i'r lan? Gan faint ei bai blinedig yw, Yn pwyso ar ei Hanwylyd gwiw. Hon yw priod-ferch Crist ein Duw, Gwerth gwaed ei galon dyner yw; Mae'n pledio ag ef, braf yw ei braint, A'i phle sy'n un â phawb o'r saint. "'Sgrifenna'm henw'n ddisglair iawn, Rhwng dy ddwy-fron mewn geiriau llawn; Er mwyn fy nghadw'n lân rhag braw, 'Sgrifenna fe eilwaith ar dy law." "Sel fi ar dy fraich yn nod dilyth, Fy mod yn briod i ti byth; Gwisg fi yno'n arwydd iddynt hwy, Na's galli fy anghofi i mwy." "Cryfach nag angeu, trech nâ'r bedd, Yw nerth dy gariad, a dy hedd; Digofaint Duw fel afon gref, A ffaelodd a'i ddiffoddi ef." "Er uno dae'r ac uffern ddu, A'r holl ellyllon ynddi sy: Och! ofer iawn eu gwaith yn wir Yn ceisio diffodd tân mor bur. "Ond ofni 'rwyf i'm calon fyn'd Ryw bryd ar ffo oddiwrth fy Ffrynd, Am hyny gwisg fy enw'n llon Fel seren ddysglaer ar dy fron. "Nes it' fy nwyn i'm bythol nyth, Lle nad oes neb yn amheu byth: Gad im' fwynhau dy nefol hedd I'm lloni â gwastadol wledd. "O tyr'd f'Anwylyd! brysia, bydd Yn awr fel iwrch, neu lwdwn hydd; Nac oed, ond tyr'd i maes o law, Dros fynydd y pêr-lysiau draw." it' fy nwyn i'm bythol :: dygost fi ym tragwyddol I'm lloni :: A'm lloni
William Williams 1717-91 Tôn [MH 8888]: Bromley (Jeremiah Clarke c.1673-1707) gwelir: Y noeth y tlawd a'r llwythog sy |
Who is this who is fainting and weak, From the desert world coming up? While the extent of her fault is exhausting, Leaning on her worthy Beloved. Here are the bold pilgrims Saved from the black depths; Under Sinai they were upheld, What enemy shall overcome them any more? Despite getting pursued here still, And completely despised by the world; Their good name, their reverence and their renown, Are kept in heaven above. The mourners of Zion are now Groaning in the great tribulation, Weep ye no more, there is full news, Which will make your hearts very joyful. Let us spend our days henceforth forever, In one, pure, unfailing joy; Let us remember thy Name, and let us sound acclaim, While ever the bright heavens are in being. At the end of some ages numerous as the dew, The saints will not weary of loving thee ever; And a taste anew to them, Will be singing about thy mortal wound. Here are they, the saved race, Who were kept on the narrow path; The first-fruits of the throng who come through grace, From the great tribulation and the detestable desert.
O who is this who is fainting and weak, From the desert world coming up? While the extent of her fault is exhausting, Leaning on her worthy Beloved. This is the bride of Christ our God, Worth the blood of his tender heart she is; She is pleading with him, good is her privilege, And her plea is the same as all of the saints. "Write my name very brightly, Between thy breasts in full words; In order to keep me wholly from terror, Write it again on thy hand." "Seal me on thy arm as an unfading mark, That I am a spouse to thee forever; Wear me there as a sign to them, That thou be not able to forget me any more." "Stronger than death, mightier than the grave, Is the strength of thy love, and thy peace; The wrath of God like a strong river, Has failed to extinguish it." "Although earth and black hell unite, With all the demons that are in them: Oh! very useless their work truly Trying to extinguish so pure a fire. "But fearing I am for my heart to go Some time fleeing from my Friend, Therefore wear my name cheerfully Like a shining star on thy breast. "Until thou lead me to my everlasting nest, Where no-one is ever doubting: Let me enjoy thy heavenly peace To cheer me with a continuous feast. "O come, my Beloved, hurry! Be Now like a roebuck, or the young of a hart; Do not delay, but come soon, Across yonder mountain of spices." thou lead me to my everlasting :: thou lead me to my eternal To cheer me :: And cheer me tr. 2016,20 Richard B Gillion |
|