Pwy yw? Mae'n hoff ei drem a hardd, O'i flaen y chwardd anwylion nef, Tryliwiog wrid teg flodau gardd A siriol dardd o'i ruddiau Ef; Tywyniad serch ar ddynol lu A geir yn gu o'i lygaid gwiw, Mae'n lân, heb fai, ei ail ni fu, O hawddgar Un! - Mae'n dêg, Pwy yw? Pwy yw? Mae'r bryniau'n crynu'n nghyd, A'r dreigiau'n plygu dan ei draed; Gordanbaid nerth sydd yn ei bryd, A'i loywaf wisg yn llif o waed; Mae'n dâl, heb angen un o'i dû, - Llawn grymusderau o bob rhyw, O'i flaen y cwymp gelynion lu, A'i nerthoedd fry - Mae'n gryf! Pwy yw? Pwy yw? Mae hwn a'i enw'n Iôr, A'i ddirfawr drysor yn ddidrai: Haelioni sydd o'i fewn yn fôr, I fywhau'r beïus, lladd y bai; I'r tlawd newynog, mae'n rhoi mael, A gwisg yn wỳn y dû ei liw; Mae'n deg! mae'n gryf! mae oll yn hael! Clyw, Seion wael - Dy Iesu yw!Robert Parry (Robyn Ddu Eryri) 1804-92 Tôn [MHD 8888D]: Bethesda (Richard S Hughes 1855-93) gwelir: Pwy yw? Mae hon a'i bron yn brudd |
Who is it? His look is lovely and beautiful, Before him the dear ones of heaven laugh, The colourful blush of fair and cheerful Garden flowers issues from his cheeks; The shining affection towards a human host Comes dearly from his worthy eyes, He is holy, without fault, never was his equal, O beautiful One! - He is fair. Who is it? Who is it? The hills are trembling together, And the dragons are bowing beneath his feet; A super-fiery strength is in his countenance, And his most shining clothing a stream of blood; He holds, with no need of anyone on his side, - Full powers of every kind, Before him fall a host of enemies, And his strengths above - He is strong! Who is it? Who is it? He whose name is the Lord, With his enormous unebbing treasure: Generous he is within it as a sea, To give the sinful life, to kill the sin; To the hungry poor, he gives sustenance, And dresses in white the black of colour; He is fair! He is strong! He is all generous! Hear, poor Zion - Thy Jesus he is!tr. 2021 Richard B Gillion |
|