Pa le pa fodd dechreuaf

Pa le pa fodd dechreuaf
  foliannu'r Iesu mawr? 
Olrheinio'i ras ni fedraf,
  mae'n llenwi nef a llawr:
Anfeidrol ydyw'r Ceidwad,
  a'i holl drysorau'n llawn;
Diderfyn yw ei gariad,
  difesur yw ei ddawn.

Trugaredd a gwirionedd 
  yng Nghrist sy nawr yn un,
Cyfiawnder a thangnefedd
  ynghyd am gadw dyn:
Am Grist a'i ddioddefiadau,
  rhinweddau marwol glwy',
Y seinir pêr ganiadau
  i dragwyddoldeb mwy.

O diolch am Gyfryngwr,
  Gwaredwr cryf i'r gwan;
O am gael ei adnabod,
  fy Mhriod i a'm rhan,
Fy ngwisgo â'i gyfiawnder
  yn hardd gerbron y Tad,
A derbyn o'i gyflawnder
  wrth deithio'r anial wlad.
Mhriod i a'm rhan :: Mhriod a fy rhan

Roger Edwards 1811-86

Tonau [7676D]:
Angels' Story (A H Mann 1850-1929)
Crüger (Johann Crüger 1598-1662)
Dinas Brân (Hywel Edwards)
Ewing (Alexander Ewing 1830-95)
Meirionnydd (William Lloyd 1786-1852)
Pen yr Yrfa (William James 1877-1964)
Penlan (D Jenkins 1849-1915)

Where, how shall I begin
  To praise the great Jesus?
To trace his grace I am unable,
  It fills heaven and earth:
Infinite is the Saviour,
  And all his full treasures;
Endless is his love,
  Immeasurable is his gift.

Mercy and truth
  In Christ are now the same,
Righteousness and peace
  Together for saving man:
For Christ and his sufferings,
  Merits of a mortal wound,
Sweet songs are to be sounded
  To eternity henceforth.

O thanks for a Mediator,
  A strong Deliverer for the weak;
O to get to know him,
  My Husband and my portion,
To clothe myself with his righteousness
  Beautiful before the Father,
And receive from his fulness
  While travelling the desert land.
::

tr. 2009 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~