Pa le dechreuaf rifo?

1,(2,3),4,5.
(Dyn yn wrthddrych gofal Rhagluniaeth)
Pa le dechreuaf rifo
  Dy drugareddau maith?
'Rwyn soddi wrth fyfyrio
  Dy annherfynol waith;
Mor hawsed rhifo'r tywod,
  Neu'r gwallt sydd ar fy mhen,
A rhifo holl fendithion
  Tywysog mawr y nen.

Sawl gwaith gwnest fy niffygion,
  A'm heisieu fynu'n llawn?
Do toraist fy ammheuaeth,
  Wrth hyny'n rhyfedd iawn:
Rhyfeddais, can ryfeddais
  Barhâd dy ddoniau maith,
C'wilyddiaist f'anghrediniaeth,
  Yn gyfiawn lawer gwaith.

Fy ffydd a ballodd ganwaith,
  A'm hyder ballai 'nghyd,
Fy nghalon a fy ngobaith
  A ballodd lawer pryd;
Ni phalla'th drugareddau,
  Na Dy ragluniaeth lân,
Ond Dy ffyddlondeb rhyfedd,
  A bery fyth yn mlaen.

Bob bore dydd o newydd,
  Achosion wyf yn gael
I ganu i'th flyddlondeb,
  A'th drugareddau hael;
Can's beunydd 'r'wyt yn selio
  Dy addewidion rhâd,
Cyflawni'r gwirioneddau
  A roddwyd yn Dy waed.

Byth D'enw gaffo'i foli,
  Byth bythoedd byddo'th glôd,
Can mil o weithiau'n lletach
  Na'r nefoedd faith ei rhôd;
Boed holl blant Adda ar unwaith,
  Mewn cydsain hyfryd lân,
I'th enw gogoneddus
  Yn gwneyd soniarus gân.
Dy annherfynol :: Ar Dy ryfeddol
Mor hawsed :: Mor hawdd yw
fyny :: fynu
Bob bore dydd o newydd, Achosion wyf yn gael ::      
      Achosion wyf bob boreu, O newydd yn eu cael
Cyflawni'r :: A chwblhau'r
Can :: Gàn'

William Williams 1717-91

Tonau [7676D]:
Llanberis (Samuel Wesley 1766-1837)
Meirionydd (William Lloyd 1786-1852)
Nyland (alaw Ffinaidd)
Talyllyn (alaw Gymreig)

gwelir: Deffrowch fy holl serchiadau

(Man as an object of the care of Providence)
Where shall I begin to number
  Thy vast mercies?
I am sinking while meditating on
  Thy boundless work;
As easy to number the sand,
  Or the hair that is on my head,
As to number allthe blessings
  Of the great Prince of heaven.

How many times hast thou made my deficiencies,
  And my need up fully?
Yes, thou didst break my doubt,
  By this very wonderfully:
I have wondered, a hundred times wondered
  Thy vast talents endure,
Thou didst put my unbelief to shame,
  Rightly many times.

My faith has faltered a hundred times,
  And my confidence would falter with it,
My heart and my hope
  Have faltered many a time;
Thy mercies shall never falter,
  Nor Thy holy Providence,
But Thy wonderful faithfulness,
  Shall endure for evermore.

Every morning of the day anew,
  Occasions I do have
To sing of thy faithfulness,
  And thy generous mercies;
Since daily thou art sealing
  Thy gracious promises,
Fulfilling the truths
  Which were given in Thy blood.

Forever may Thy name get praised,
  Forever and ever be thy acclaim,
And hundred thousand of times broader
  Than heaven with its vast orbit;
May all the children of Adam at once be,
  In a delightful, holy harmony
To thy glorious name,
  Making a resounding song.
Thy boundless :: (On) Thy wonderful
As easy :: How easy is
::
Every morning of the day anew, Occasions I do have ::      
      Occasions I do every morning, Anew have
::
::

tr. 2014 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Interests ~ Home ~