Paham trallodir f'enaid cu, Gan luoedd o ammheuon du? Dweyd wnaeth y digelwyddog Dduw Y cai'r credadyn llesgaf fyw. Nid dyn yw ef i ddweyd ar fai, Na mab i ddyn i 'difarhau, Pob gair a ro'es o ddechreu'r byd Gyflawnir oll mewn dwyfol bryd. Ei dystiolaethau pur sy'n dwyn Gwir ddelw hardd ei galon fwyn; Nis dichon wadu ef ei hun, I dwyllo angel pur na dyn. A heibio'r ddaear gron a'r nef, Ond byth ni phall'i eiriau ef; Pan doddo c'lofnau haul a sêr, Mewn dwyfol rym bydd gair fy Nêr. Cyflawnodd Duw ei eiriau trud, Wrth roi ei anwyl Fab i'r byd, Yr hwn sydd wystl cadarn im' Bydd pob addewid byth mewn grym. Ar lân dystiolaeth eirwir Naf Rhoi pwys fy enaid tlawd a wnaf; Trwy air ei nerth gwnaeth bethau mwy Nâ'm dàl i'r làn, er llesged wy'.Casgliad Joseph Harris 1845
Tonau [MH 8888]: |
Why is my dear soul troubled, By hosts of black doubts? Say, does the unlying God, That the weakest believer may live. Not a man is he to speak wrongly, Nor a son of man to repent, Every word he gave from the beginning of the world Is all to be fulfilled in divine time. His pure testimonies are bringing The true, beautiful image of his gentle heart; He cannot deny him himself, To deceive a pure angel or a man. The round earth and heaven shall pass, But never shall his words fail; When the pillars of sun and stars shall melt, In divine force shall be the word of my Lord. God fulfilled his precious word, By giving his beloved Son to the world, He who is a firm pledge to me That every promise shall forever be in force. On the pure testimony of a truthful Chief Lean my poor soul I shall do; Through the world of his strength he did greater things that will evermore Hold me up, despite how feeble I am.tr. 2016 Richard B Gillion |
|