Pa'm enaid 'rwyt yn diofalhau?
Pa'm f'enaid wyt yn diofalhau?

(Achwyniad o Farweidd-dra neu Ddiogi ysprydol)
Pa'm f'enaid wyt yn diofalhau?
Dihun o'th gwsg a'th syrthni'n glau;
  'Does neb a chanddo gymmaint gwaith,
  Na dim mor hurt na hwyr-drwm chwaith.

Y morgrug bach am 'chydig beth,
Llafuriant, poenant yn ddi-feth;
  A ni s'am ennill
      Teyrnas Dduw,
  O mor esgeulus 'ry'm yn byw!

Ond er ein mwyn y saif y byd,
A'r Ser a dry
    o ddeutu o hyd;
  I'n cadw daw'r angylaidd lu,
  Yn llon dan hedeg oddi fry.

Ni, dros ba rai daeth
    Crist o'r nef,
Ac am ein lles llafuriodd ef,
  Mor ddiofal y'm
      am gael sicrad
  O'r goron brynodd
      ef â'i wa'd.

A gawn ni fod mor swrth a gwan,
O Arglwydd, byth heb weithio'n rhan?
  Tyr'd G'lommen Duw
      o'th nefol fryn,
  Gwresoga di'r calonnau hyn.

A'n hyspryd swrth a fywiocca,
A'n henaid codi fyny a wna;
  Ag edyn serch,
      a ddwylaw ffydd,
  Hedwn a chawn
      y gamp a'r dydd.
John Hughes 1776-1843
Hymnau a Chaniadau Ysprydol 1775
              - - - - -

Pam, f'enaid, 'rwyt yn diofalhau?
Dihûn o'th gwsg a'th syrthni'n glau;
  'Does neb â chanddo gymmaint gwaith,
  Na neb yn fwy esgeulus chwaith.

Ni, dros y rhai daeth Crist o'r nef,
Ac am ein lles llafuriodd Ef,
  Ni, sydd am gyraedd teyrnas Duw,
  O mor ddiofal 'rŷm yn byw!

A gawn ni fod mor swrth a gwan,
A phara byth heb weithio'n rhan?
  Tyr'd Ysbryd Glân,
      o'th nefol fryn,
  Gwresoga di'r calonau hyn.

Ein hyspryd swrth, O bywiocâ,
A'n henaid codi fyny wna:
  Ar edyn serch, a bywiol ffydd,
  Hedwn, a chawn
      y gamp a'r dydd.
John Hughes 1776-1843
diw. Casgliad o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tonau [MH 8888]:
Ffrydiau Babilon (Thomas Campion 1567-1619)
Hursley (Katholisches Gesangbuch 1774)
Norwich (<1876)

(Complaint of Languor or spiritual Laziness)
Why my soul art thou being careless?
Awake from thy sleep and thy cosy torpor;
  No-one has so much work,
  Nor any so foolish nor sluggish either.

The little ants for a little thing,
They labour, take pains unfailingly;
  And we who want to gain
      the Kingdom of God,
  O how negligently we are living!

But for our sake does stand the world,
And the stars which turn
    around constantly;
  To keep us comes the angelic host,
  Cheerfully while flying from above.

We, for which sort came
    Christ from heaven,
And for our benefit laboured he,
  How careless we are
      about getting an assurance
  Of the crown he purchased
      with his blood.

And shall we get to be so drowsy and weak,
O Lord, forever without working our part?
  Come, Dove of God,
      from thy heavenly hill,
  Warm thou these hearts.

And our drowsy Spirit enliven,
And our soul raise up do;
  With the wings of love
      and the hands of faith,
  Let us fly and get
      the victory and the day.
 
 
              - - - - -

Why, my soul, art thou careless?
Awake from thy sleep and thy cosy torpor;
  No-one has so much work,
  Nor any more neglectful either.

We, for whom Christ came from heaven,
And for our benefit laboured He,
  We, who was to reach the kingdom of God,
  O how carelessly we are living!

And shall we get to be so drowsy and weak,
And continue forever to work our part?
  Come Holy Spirit,
      from thy heavenly hill,
  Warm thou these hearts.

Our drowsy spirit, O enliven,
And our soul do raise up:
  On wings of love, and lively faith,
  Let us fly, and we shall get
      the victory and the day.
tr. 2016,18 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~