Pam 'rwy'n temtio Duw wy'n garu?

(Cariad tragwyddol)
Pam 'rwy'n temtio Duw wy'n garu?
  Duw a'm carodd cyn fy mod:
B'le y gwelir un creadur
  Mwy gwrthnysig, îs y rhod!
    Maddeu! maddeu!
  Ar faddeuant byddaf byw.

Pan y gwelwyf un o'th bobl
  Trwy demtasiwn pleser gau
Wedi colli'i afael arnat,
  Ac yn awr yn llwfrhau;
    Swn y daran,
  Bâr im' ofni draw o bell.

'Fory yw'm diwrnod innau,
  'Fory, (medd fy enaid gwan,)
Lawr i ddwylaw Saul y syrthiaf,
  Oni ddeli di fi'r làn;
    B'le mae'r gallu
  Sydd yn arfer trugarhau!
William Williams 1717-91

[Mesur: 878747]

(Eternal love)
Why am I tempting God whom I love?
  God who loved me before I was:
Where is to be seen any creature
  More stubborn, under the sky!
    Forgive! forgive!
  On forgiveness I will be living.

When I see one of thy people
  Through the temptation of false pleasure
Having lost his grasp upon thee,
  And now being disheartened;
    The sound of the thunder,
  Causes me to fear from far away.

Tomorrow is my day,
  Tomorrow, (says my weak soul,)
Down into Saul's hands I fall,
  Unless thou hold me up;
    Where is the power
  Which usually shows mercy!
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~