Pan aeth Duw i fro'r uchelder, Bloedd o groesaw roddai'r nef; Udgyrn arian Gwynfa lawen Seinient pan ddyrchafodd Ef: Haleluia! Seiniwn ninnau'n unfryd oll. Cenwch fawl i'n Brenin, cenwch, Cenwch lafar glod i Dduw; Cenwch foliant yn ddeallgar, Brenin yr holl ddaear yw: Haleluia! Duw sy Frenin daear gron. Mae teyrnasoedd byd a'i bobloedd Dan deyrn-wialen ein Duw ni; Ar ei orsedd wen mae'n eistedd, Gorsedd ei sancteiddiol fri: Haleluia! Duw yw Llywydd nef a llawr. Wele'n awr freninoedd daear Yn ymgynnull dano 'nghyd, Oll yn wir Israeliaid iddo; Eiddo Duw yw estylch byd; Haleluia! Dirfawr y dyrcharwyd Ef.Y Psallwyr Cymreig (Morris Williams)
Tonau [878747]: |
When God went to the region of the height, A shout of welcome heaven would give; The silver trumpets of the blessed place of joy Sounded when He ascended: Hallelujah! Let us too all sound with one accord. Sing ye praise to our Kin, sing ye! Sing ye vocal acclaim to God; Sing ye praise with understanding, The King of all the earth he is: Hallelujah! God is the King of the round earth. The kingdoms of the world and its peoples are Under the sceptre of our God; On his white throne he is seated, The throne of his holy renown: Hallelujah! God is the Governor of heaven and earth. See now the kings of earth Gathering together under him, All true Israelites to him; Belonging to God are the world's shields; Hallelujah! Enormously is He exalted.tr. 2016 Richard B Gillion |
|