Pan caffwyf wel'd y nefol wledd

(Byw yn ngolwg y nefoedd)
Pan caffwyf wel'd y nefol wledd,
A phrofi blas dy ddwyfol hedd,
  'Rwy'n gwel'd gogoniant mwya'r byd,
  Fel peth annheilwng o fy mryd.

Yn ngweledigaeth nefoedd fry
'Rwy'n prisio pethau'n werthfawr sy;
  Pan yr agoro pyrth y nef
  'Rwy'n canfod Ei ogoniant Ef.

'Rwy'n gwel'd dirgelion yn ei waed
Na chafwyd etto mo'u mwynhâd;
  Gras a gogoniant, ynddo'i Hun,
  Uwch law erioed feddyliodd dyn.

Wel, dyma'r unig fan, fy Nuw,
Dymunaf aros tra fwy' byw;
  Blaen ffrwyth yw hyn
      o'r hyfryd wledd
  Gaf ei mwynhau tu draw i'r bedd.

O! boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd
Ddirgelion distaw nefol fyd,
  A'm pleser unig ddydd a nos,
  Yn nwfn wirioneddau'r groes.
William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angels' Hymn (Orlando Gibbons 1583-1625)
Emyn Foreuol (Thomas Tallis c.1505-85)
Kent (J F Lampe 1703-51)
Ombersley (W H Gladstone 1840-92)

gwelir:
  O boed fy nghlustiau'n gwrando o hyd
  Tydi fy Nuw Tydi dy hun
  Yn Peniel 'rwyt fy enaid clyw

(Living in view of heaven)
When I get to see the heavenly feast,
And experience a taste of thy divine peace,
  I am seeing the world's greatest glory,
  As something unworthy of my attention.

In the vision of heaven above
I am valuing things which are precious;
  When the gates of heaven open
  I am finding His glory.

I am seeing secrets in his blood
I never yet got to enjoy;
  Grace and glory, in Himself,
  Above anything man ever thought.

See, here is the only place, my God,
I wish to stay while ever I live;
  The firstfruits is this
      of the delightful feast
  I will get to enjoy beyond the grave.

O may my ears be always listening to
The quiet secrets of a heavenly world,
  And my only pleasure day and night,
  In the deep truths of the cross.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~