Pan collo gwellt y maes eu dawn

(Mwynhâd o Dduw yn llanw yr enaid - Rhan II)
Pan collo gwellt
    y maes eu dawn,
A'r wybr faith eu boreu a nawn,
A distryw ddod yn gyfan iawn
  Ar nef a daear lawr;
Caf weled sanctaidd newydd dir
O degwch ac o bleser pur,
Yn tarddu i maes o'r Duwdod gwir,
  Gyda gogoniant mawr.

Ac yno, f'enaid bach, ti gai
Dragwyddol bleser i'w fwynhau,
N'all angel fyth, a dyn yn llai,
  Yn hollol ddodi i maes;
Ond digon yw i'm henaid gwan,
Myfi gaf esgyn, gwn, i'r lan,
Ac yfed yno yn y man,
  Fyth o afonydd gras.

O! tor fy llyffetheiriau'n glau,
Mae hiraeth arnaf dy fwynhau,
A dwg fi i maes o'r carchar clai,
  Rho fy nghadwynau'n rhydd:
Rhy fach, rhy brin, i mi yn awr
Yw'r holl greadigaeth eang, fawr,
'Rwy'n griddfan beunydd ar y llawr,
  Am wel'd y boreu ddydd.

Myfyrio am fyn'd sydd felus iawn;
Mae f'enaid eisoes, foreu a nawn,
Am gynnefino'i
    nefol ddawn,
  A chwareu'i aden bur,
Fel pe bai am anturio'n hy'
Trwy ganol y cymmylau fry,
A neidio i mewn i blith y llu,
  Lle mae'r Messiah gwir.
William Williams 1717-91

Tonau [8886D]:
Arvon (<1875)
Barnsfield (<1876)
Beulah (alaw Gymreig)
Cariad (G Gwent 1838-91)
Sarepta (<1869)
Tobleria (A H Mann)

gwelir:
  Rhan I - Nid oes ond f'Arglwydd mawr ei ddawn
  Dy gariad Iesu sydd yn awr

(The enjoyment of God flooding the soul - Part 2)
When the grass of the field
    lose their ability,
And the vast sky their morning and evening,
And destruction comes completely
  Upon heaven and earth below;
I shall get to see a sacred new land
Of fairness and of pure pleasure,
Issuing out of the true Trinity,
  With great glory.

And there, my little soul, thou shalt get
Eternal pleasure to enjoy,
That no angel can ever, and man even less,
  Wholly set forth;
But sufficient it is for my weak soul,
That I shall get to ascend, I know, up,
And drink there soon,
  Forever from rivers of grace.

O break my fetters quickly,
I am longing to enjoy thee,
And draw me out of the prison of clay,
  Set my chains free:
Too little, too scarce, for me now
Is all the vast, great creation,
I am groaning daily on the earth,
  To see the morn of day.

Meditating on going is very sweet;
My soul is already, morning and evening,
Wanting to become acquainted
    with its heavenly gift,
And ply its pure wings,
As if wanting to venture boldly
Through the middle of the clouds above,
And jump in among the host,
  Where the true Messiah is.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~