Pan ddelo angeu yn ei rwysg, I dori fy oll i lawr, Fy unig noddfa werthfawr fydd Yn fy Ngwaredwr mawr. Pan ddarfo enwau oll o'r bron, A cyfaill, mam, a thad, Yr enw hyfryd unig fydd Yr iachawdwriaeth rad. O gâd im' mewn tangnefedd pur, Roi f'anadl ola'i maes, Ac mewn gorfoledd hwylio dros Y cefnfôr garw glâs. Fe saif cyfammod pur y nef, Yn gadarn yn ei rym, Pan fo pob cysur îs y nef Gwedi diflanu'n ddim. Y cyfan gwedi rhoi ffarwel, A welwyd îs y rhod; Yna fy Iesu fydd y Brawd Anwylaf gaed erioed. A myn'd dan ganu tua'r wlad A drefnwyd i mi fyw; A gwedi gadaw 'mhell o'm hol Gystuddiau o bob rhyw. Fe ddaeth y Iubil werthfawr lawn, Ar ol och'neidio'n hir; Ac mi ges weled hyfryd ran, O'r Baradwysaidd dir. A drefnwyd i mi :: Bwrpaswyd imi
Tonau [MC 8686]:
gwelir: |
When death comes in its pride, To break me all down, My only precious refuge shall be In my great Deliverer. When all names perish utterly, And friend, mother, and father, The only delightful name shall be The gracious saviour. Oh let me in pure tranquility, Give out my last breath, And in jubilation sail across The rough blue ocean. The pure covenant of heaven shall stand, Strong in its force, Whenever every comfort under heaven Has disappeared to nothing. The whole having bidden farewell, And withered under the sky; Then my Jesus shall be my dearest Brother ever had. And going while singing towards the country Which was arranged for me to live; And after leaving far behind me Afflictions of every kind. The precious full Jubilee came After groaning long; And I got to see a delightful portion, Of the paradisiacal land. Which was arranged for me :: Which was purposed for me tr. 2015 Richard B Gillion |
|