Cyn it' ddyfod gynt i drigo
Pan ddisgynnaist gynt i drigo

1,2,3,(4).
Pan ddisgynnaist gynt i drigo
  Gyda dynion, Arglwydd glân,
Ti ddanfonaist dy Cenhadwr
  I bar'tôi dy ffordd o'th flaen;
    Dyro heddiw
  I'th genhadon gyfryw ras.

Caniatâ i'th weinidogion,
  Goruchwylwyr da dy dŷ,
Lwyr arloesi ffordd it eto
  I galonnau myrdd di-ri';
    Trwy droi'r cyndyn
  I ddoethineb pur dy Saint.

Yna ar dy ail Ddyfodiad
  I iawn farnu dynol-ryw,
Caffer ninnau'n gymeradwy
  Yn dy olwg di, ein Duw,
    Trwy ryglyddon
  Dy ddioddefaint ar y Groes.

Boed i'r Iesu yn ei Adfent,
  Glod a moliant, parch a bri,
Gyda'r Tad a'r Sanctaidd Ysbryd,
  Heb wahân yn Un a Thri;
    Byth heb diwedd,
  Fel o'r dechrau, seinia'u clod.
Pan ddisgynnaist gynt i drigo :: Cyn it' ddyfod gynt i drigo
Goruchwylwyr da :: A gor'chwylwyr da
Caffer ninnau'n gymeradwy :: Ceir ni'n bobol gymmeradwy
dy olwg, di :: dy olwg O
ddioddefaint :: oddefaint

Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831

Tonau [878747]:
Frankfort (Philipp Nicolai 1556-1608)
Hyder (R Ellis 1775-1855)
Mannheim (Friedrich Filitz 1804-76)

When thou didst descend before to dwell
  With men, holy Lord,
Thou didst send thy Emissary
  To prepare thy way before thee;
    Grant today
  To thy emissaries a like grace.

Allow thy ministers,
  The good overseers of thy house,
Completely to pioneer a way for thee again
  To hearten an innumerable myriad;
    Through turning the stubborn
  To the pure wisdom of thy Saints.

Then on thy second Coming
  To rightly judge human-kind,
That we get ourselves acceptable
  In thy sight, our God,
    Through the merits
  Of thy suffering  on the Cross.

Let there be to Jesus in his Advent,
  Praise and worship, reverence and honour,
With the Father and the Holy Spirit,
  Without division as One and Three;
    Forever without end,
  As from the beginning, sound their praise.
When thou didst descend before :: Before thou camest before
The good overseers :: And the good overseers
That we get ourselves acceptable :: We are to get ourselves acceptable people
thy sight, :: thy sight, O
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~