Pan fo tonnau poen a blinder Yn cynhyrfu'm henaid trist, Câf obennydd esmwyth, tyner, Yn addewid Iesu Grist: Doed y byd ato'i gyd, - Dyma gysgod tawel, clyd. Wedi stormydd geirwon, enbyd, Wedi gwynt cynhyrfus, cryf, Yn Ei ddistaw lêf mae bywyd Wna fy yspryd gwan yn hyf: Defnydd nef sy'n Ei lêf, Ddena f'enaid ato Ef. Dyma'm nefoedd ar y ddaear, Ydyw gwedd Ei wyneb llon; Trŷ annedwydd ddyffryn galar Yn Seceina ger fy mron: Tyrd yn awr, Iesu mawr, Tỳn fy mryd oddi ar y llawr!Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937 Tôn [8787337]: Bryn Gilead (John Roberts 1807-76) |
Whenever the waves of pain and weariness be Agitating my sad soul, I may get a smooth, tender cushion, In the promise of Jesus Christ: Let the world come together, - Here is a quiet, cosy shadow. After rough, furious storms, After agitating, strong wind, In His quiet cry is life That makes my weak spirit bold: The topic of heaven that is in His cry, Attracts my soul to Him. Here is my heaven on the earth, It is the countenance of His cheerful face; The unhappy vale of mourning turns Into Shekinah before me: Come now, great Jesus, Draw my attention from the earth!tr. 2018 Richard B Gillion |
|