Pan fyddo'r corff yn dioddef cur

(Yr awr olaf)
Pan fyddo'r corff yn dioddef cur
A gloywon saethau'r gelyn sur,
  O loes i loes rhaid mynd i lawr
  Dan arfau miniog angau mawr.

Pan fyddo'r anadl yn byrhau,
A'r poenau mawrion yn trymhau,
  A'r enaid dros y genau mud
  Yn dianc i'r tragwyddol fyd,

Gad imi syllu ar dy wedd,
Nes byddwyf yn anghofio'r bedd;
  A phrawf o'th gariad dyro im,
  Nes byddo marw'n mynd yn ddim.
Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu) 1766-1850

[Mesur: MH 8888]

(The last hour)
When the body is suffering a stoke
And the shining darts of the bitter enemy,
  From pang to pang one must go down
  Under the sharp weapons of great death.

When the breath is shortening,
And the great pains becoming heavier,
  And the soul across the mute mouth
  Escaping to the eternal world,

Let me gaze upon thy countenance,
Until I am forgetting the grave;
  And an experience of thy love grant me,
  Until death goes to nothing.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~