Pan guddio'r nos y dydd

Pan guddio'r nos y dydd,
  A'r gân yn troi yn gri,
Cynlluniau dyn yn drysu ffydd,
  O! Arglwydd, cofia fi.

Pan ollwng cymyl prudd
  Eu dafnau oer yn lli,
Pan ddeffry'r gwynt
    a'i nerthoedd cudd,
  O! Arglwydd, cofia fi.

Ti gofiaist
    waelion byd,
  Maddeuaist fyrdd di-ri';
Dy ras sy'n fôr heb drai o hyd;
  O! Arglwydd, cofia fi.

Yn ing yr olaf awr,
  Pan syrth y byd a'i fri
Fel dail yr hydref ar y llawr,
  O! Arglwydd, cofia fi.
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937

Tôn [MB 6686]: Aberdâr (alaw Gymreig)

When the night hides the day,
  And the song turns into a cry,
The schemes of man confounding faith,
  O Lord, remember me!

When the clouds of sadness drop
  Their cold drops as a flood,
When the wind awakens
    with its hidden strengths,
  O Lord, remember me!

Thou didst remember
    the wretches of the world,
  Didst forgive unnumbered myriads;
Thy grace is still an unebbing sea;
  O Lord, remember me!

In the agony of the last hour,
  When the world falls and its honour
Like the leaves of autumn on the ground,
  O Lord, remember me!
tr. 2011 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~