1,2,(3). Pan oedd Sinai yn melltenu, A'i tharanau'n rhwygo'r nen; Cwmwl tanllyd ei melldithion Bron ymdywallt am fy mhen; Nef a daear yn fy ngwrthod, A'm cyhuddo 'roedd y ddraig, Gwelais fan i droi fy ngwyneb, Ces ymguddfa'n "holltau'r Graig." Pan fo stormydd arna'i'n curo Nes diffygio f'ysbryd gwan, Yma bellach tro'f fy wyneb, - Dyma'r unig dawel fan: Rhedeg mwy yn mhob rhyw drallod Wnaf i gysgod Had y Wraig, Hyd nes elo'r aflwydd heibio Llechu wnaf yn "holltau'r Graig." Gad im' dreulio f'oriau, Arglwydd, Tra b'wyf yma yn y byd, Dan dy aden, yn ddiogel, Yn y noddfa dawel glyd: A phan toddo yr elfenau, Ac y berwo tònau'r aig, A holl anian yn ymddryllio, Canaf finnau'n "holltau'r Graig." - - - - - 1,2,(3). Pan oedd Sinai yn melltenu, A'i tharanau'n rhwygo'r nen; Cwmwl tanllyd ei melldithion Ar ymrwygo uwch fy mhen; Nef a daear yn fy ngwrthod, A'm cydwybod fel y ddraig, Cefais loches rhag y dymhestl Yn nhawelwch holltau'r graig. Dyma'r fan y gwnaf fy noddfa, Yma llecha f'enaid gwan, Pan fo'r gwynt a'r tonau'n curo, Holltau'r graig yw'r unig fan; Rhued byd ac uffern greulawn, Yn eu llid i'm herbyn mwy, Minau 'n holltau 'r graig a gânaf, Ac nid ofnaf mo'nynt hwy. Ac yn nydd y farn ofnadwy, Pan y ffŷ'r mynyddau mawr, Ac y syrthia sêr y nefoedd Megys ffigys îr i lawr: A'r elfenau'n cydymdoddi, Gwres yn berwi tonau'r aig, Dewrion fyrdd yn bloeddio'n chwerw, Cânaf fi yn holltau'r graig.William Rees (Gwilym Hiraethog) 1802-83
Tonau [8787D]: gwelir: Rhan II - Gad im' dreulio f'oriau Arglwydd |
When Sinai was lightening, And its thunders rending the sky; The fiery cloud of its condemnations Almost poured about my head; Heaven and earth rejecting me, And accusing me was the dragon, I saw a place to turn my face, I got to hide in "the clefts of the Rock." When the storms are beating upon me Until me weak soul fails, Here then I will turn my face, - This is the only quiet place: Run evermore in every kind of trouble I shall, to the shadow of the Woman's Seed, Until the misfortune passes Lurk I shall in "the clefts of the Rock." Let me sped my hours, Lord, While ever I am here in the word, Under the wing, safe, In the quiet, secure refuge: And when the elements dissolve, And the waves of the ocean boil, And all nature shatters, I then shall sing "the clefts of the Rock." - - - - - When Sinai was lightening, And its thunders rending the sky; The fiery cloud of its condemnations About to tear itself up above my head; Earth and heaven rejecting me, And my conscience like the dragon, I got a refuge from the tempest In the quietness of the clefts of the rock. Here is the place I shall make my refuge, Here shall my weak soul lurk, When the wind and the waves be beating, The clefts of the rock are the only place; Let the world roar and cruel hell, In their wrath against me henceforth, I in the clefts of the rock shall sing, And I shall not fear them any more. And in the terrible day of wrath, When the great mountains flee, And the stars of heaven fall Like ripe figs to the ground: And the elements dissolve together, Heat boiling the waves of the ocean, A myriad brave ones shouting bitterly, I shall sing in the clefts of the rock.tr. 2018 Richard B Gillion |
|