Pan oeddym mewn anobaith dû

("Wele dy iachawdwriaeth yn dyfod.")
Pan oeddym mewn anobaith dû,
  Yn llawn trueni mawr,
Heb lewyrch yn ein cyflwr caeth,
  Na gobaith gweled gwawr;

Tywysog hedd a'n canfu oll
  Yn ngholl mewn ing a gwae;
Tosturiodd wrthym, ac o'i fodd
  Fe redodd i'n rhyddhau.

Ymwisgodd yn ein natur wael
  I gael ei hadfer hi;
A rhoes ei hun anfeidrol werth,
  Yn aberth drosom ni.

Y creigiau'n nghyda'r bryniau teg,
  O'ch gosteg seiniwch gân;
A holl blant Adda îs y rhod,
  Rhowch glod i'w enw glân.

A chwithau, engyl, llawenhewch,
  Tarewch delynau'r nef;
Er hyn ni chenir digon byth
  Am waith ei gariad ef.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [MC 8686]: St Magnus (Jeremiah Clarke c.1673-1707)

("See thy salvation coming.")
When we were in black hopelessness,
  Full of great misery,
Without a gleam in our captive condition,
  Nor hope of seeing a dawn;

The Prince of peace found us all
  Lost in anguish and woe;
He had mercy on us, and from his will
  He gave to us freedom.

He wore our base nature
  To get its restoration;
And gave himself of immeasurable worth,
  As a sacrifice for us.

The rocks together with the fair hills,
  From your calm, sound a song;
And all the children of Adam under the sky,
  Render ye praise to his holy name.

And ye, angels, rejoice,
  Strike the harps of heaven;
Despite this never will enough be sung
  About the work of his love.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~