Pan sycho'r moroedd dyfnion maith, A syrthio sêr y nen, Oen Duw, a laddwyd ar y bryn, Ar Seion fydd yn Ben. Ei enw a bery tra fo haul, Yn glodfawr byth y bydd; Ac ni bydd diwedd ar ei glod I dragwyddoldeb ddydd. Bendithion rif y tywod man, A gwlith y ddaear lawr, Sy 'nghadw i'r ffyddloniaid fry Byth yn eu Harglwydd mawr. Aed enwau'r byd i gyd yn ddim, Dyrchafer Brenin nef; Mae pob cyflawnder inni byth Yng nghadw ynddo Ef. Oen Duw, a laddwyd ar y bryn :: Yr hwn fu farw, ac sydd fyw cyflawnder inni byth :: cyfiawnder, gras, a nerth Yng nghadw :: Yn trigo
Tonau [MC 8686]: |
When the vast, deep oceans dry, And the stars of the sky fall, The Lamb of God, who was killed on the hill, On Zion will be Head. His name shall endure while the sun shall be, Praised forever shall he be; And there will be no end to his acclaim To an eternity of day. Blessings numerous as the fine sand, And dew of the earth below, Will keep me to the faithful above Forever in their great Lord. May all the names of the world go to nothing, The King of heaven is to be exalted; Every fullness to us forever Keeps in Him. The Lamb of God, who was killed on the hill :: He who died, and who is alive fullness to us forever :: fulness, grace, and strength Keeps :: Dwells tr. 2011 Richard B Gillion |
|