Pan y'n poenir gan elynion
Pryd y'n poenir gan elynion

(Dydd Gwyl Sant Stephan)
Pan y'n poenir gan elynion
  Tra yn tystio dros y gwir,
Arglwydd, cyfod ein golygon
  I oleuni'r nefol dir;
Anfon beth o bur ddisgleirdeb
  A gogoniant gwlad yr hedd,
I lewyrchu ar ein gwyneb,
  A goleuo byd a bedd.

Dyro'th Ysbryd i'n sancteiddio,
  A'n meddianau oll yn lān,
Dysg in' garu a bendithio
  Ein gelynion fawr a mān;
Er i'th Eglwys mewn cystuddiau
  Gael ei mathru gan y byd,
Ffrydied cariad Crist o'i chlwyfau
  Yn afonydd glān o hyd.

Dyro ini ffydd i graffu,
  Megys Stephan, tua'r nef,
Nes cael golwg lawn at Iesu -
  Golwg fel a gafodd ef -
Ffyddiog edrych arno'n eiriol
  Drosom ar y ddeheu law,
Er ein dwyn yn waredigol
  Ato'i Hun i'r ochr draw.
Pan :: Pryd
Tra yn tystio :: Wrth in dystio

Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai) 1827-95

Tonau [8787D]:
Bavaria (Felix Mendelssohn-Bartholdy 1809-47)
  Gobaith (alaw Gymreig)

(Saint Stephen's Day)
When we are pained by enemies
  While witnessing for the truth,
Lord, raise our sights
  To the light of the heavenly land;
Send something of the pure radiance
  And glory of the country of peace,
To shine on our faces,
  And lighten world and grave.

Grant thy Spirit to sanctify us,
  And to possess us wholly,
Teach us to love and bless
  Our enemies great and small;
Though thy Church in afflictions
  Get trampled by the world,
Let the love of Christ flow from his wounds
  In holy streams always.

Grant us faith to gaze,
  Like Stephen, towards heaven,
Until getting a full sight on Jesus -
  A sight like he got -
Hopefully looking upon him interceding
  For us at the right hand,
In order to lead in deliverance
  To Himself to yonder side.
::
While witnessing :: As we witness

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~