Parod yw Duw i faddeu'r bai, Sydd yn ei rai anwyla'; Fel ffyddlon Frawd, neu dirion Dad, Yn wastad fe a'u cara. Cânt gerydd am eu bai ar g'oedd, Cânt yfed dyfroedd Mara; Cystudaiau newydd ddaw bob cam I'w cwrddyd am y cynta'. Ond gyda'i gerydd dyry hedd, Trugaredd a thiriondeb; A'i ras i'w blant i gyd barhâ I eitha' trag'wyddoldeb.William Williams 1717-91 Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831 (Tosturi grasol, a Maddeugarwch Duw.) Parod yw Duw i faddeu'r bai, Sydd yn ei rai anwyla'; Fel ffyddlon ffrind, neu dirion Dad, Yn wastad fe a'u cara. Canfod y mae ef yn mhob man, Ein bai a'n hannoethineb; Ei feibion y'm, ei ras barhâ, I eitha tragwyddoldeb. Mae ynddo ddwfwn fôr di drai O gariad a thosturi; Mae wrth ei fodd yn trugarhau, Er maint yw ein trueni.William Williams 1717-91 Y Per Ganiedydd 1847 [Mesur: MS 8787] |
Ready is God to forgive the fault, Which is in his most beloved; Like a faithful Brother, or tender Father, Constantly he will love them. They will get chastisement for their fault publicly, They will get to drink the waters of Marah; New afflictions shall come every step To meet them at first. But with his chastisement he will grant peace, Mercy and tenderness; And his grace to all his children shall endure To the extremity of eternity. (The gracious Mercy, and Forgiving nature of God.) Ready is God to forgive the fault, Which is in his most beloved; Like a faithful friend, or tender Father, Constantly he will love them. He discerns in every place, Our fault and our lack of wisdom; His sons we are, his grace will endure, To the extremity of eternity. In him is a deep, unebbing sea Of love and mercy; He delights in showing mercy, Despite how great is our wretchedness.tr. 2015 Richard B Gillion |
|