Pechadur wyf erioed

(Ceisio maddeuant a nerth)
  Pechadur wyf erio'd
    O halogedig ryw;
  Gwrth'nebwr fynnai fod
    Yn erbyn gras fy Nuw:
O maddeu'n rhad fy meiau 'nawr,
Ar gyfrif gwa'd
      f'Anwylyd gwiw.

  Mae rhwystrau o fy mla'n
    I'r etifeddiaeth rad;
  Mae dyfroedd mawr a thân
    Oddiyma i dŷ fy Nhad: 
O Arglwydd, gwel fi'n llesg a gwan,
A dwg fi'r lan i'r nefol wlad. 

  Fe ŵyr, f'Anwylyd cu,
    Fod llu o elynion im';
  Y rhai yn gyfrwys sy,
    A chedyrn iawn o rym:
Rho ras i mi anturio'n hŷ
Trwy ganol llu
     'ngelynion llym.

            - - - - -

  Pechadur wyf erioed
    O halogedig ryw;
  Pechadur fynai fod
    Yn erbyn gras fy Nuw:
O maddeu'n rhad fy meiau 'nawr,
Ar gyfrif gwaed yr Iesu mawr.

  Troseddwr wyf, O Dduw,
    Da iawn y gwyddost hyn:
  Annheilwng iawn i fyw
    Tu yma i uffern lyn;
O dan ei faich mae f'enaid gwan,
Estyn dy fraich a dwg fi i'r lan.

  Rhif fy mhechodau sydd
    Fel y mân wlith brydnawn;
  A rhei'ny oll bob dydd
    O liwiau duon iawn;
Ond afon lifodd ar y bryn
A all fy ngolchi oll yn wyn.
William Williams 1717-91

Tôn [666688]: Bryniau Canaan (alaw Gymreig)

(Seeking forgiveness and strength)
  I sinner I have ever been
    Of a defiled sort;
  A rebel I insist on being
    Against my God's grace:
O forgive freely my sins now,
On account of the blood
      of my worthy Beloved.

  There are obstacles before me
    To the free inheritance;
  There are great waters and fire
    From here to my Father's house:
O Lord, see me feeble and weak,
And lead me up to the heavenly land.

  I know, my dear Beloved,
    That I have a host of enemies;
  Those who are crafty,
    And very firm of force:
Give grace for me to venture boldly
Through the middle of a host
     of my sharp enemies.

               - - - - -

  A sinner I have ever been
    Of a defiled sort;
  A sinner I insist on being
    Against my God's grace:
O forgive freely my faults now,
On account of the blood of great Jesus.

  A transgressor I am, O God,
    Very well I know this:
  Very unworthy to live
    This side of the infernal lake;
Under its burden is my weak soul,
Extend thy arm and lead my up.

  The number of my sins is
    Like the fine dew of evening;
  And all those every day
    O very black colours;
But a river streamed on the hill
Which can wash me all white.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~