Pechadur wyf y dua'n fyw

1,(2,3,(4,5,6,7));  1,2,3,4,(6).
("Cofia fi.")
Pechadur wyf, y dua'n fyw,
  Trugaredd yw fy nghri;
Gostwng dy glust a'm llefain clyw,
  O! Arglwydd, cofia fi.

Y mae tosturi, fel y môr
  Heb fesur ynot Ti;
O'th ras, sy'n annherfynol stôr,
  O! Arglwydd, cofia fi.

Bodlonodd Crist y nef yn llawn,
  Ar fynydd Calfari;
Er mwyn ei berffaith ddwyfol Iawn,
  O! Arglwydd, cofia fi.

Fy anwireddau mawr a mân,
  Yn llwyr darostwng di;
I'm puro trwy dy Ysbryd Glân,
  Arglwydd! cofia fi.

Wrth rydio'r hen Iorddonen gas,
  Na soddwyf yn y lli';
O dan ddyrnodiau angeu glas,
  Arglwydd! cofia fi.

Pan ddelo'r saint i'r làn o'r bedd,
  Yn more'r Jubili,
I'm codi'n berffaith ar dy wedd,
  Arglwydd! cofia fi.

Pan ddyger adref oll yn llon,
  Dy etholedig ri',
I fyw mewn gwynfyd ger dy fron,
  O Arglwydd! cofia fi.
ddelo'r saint :: ddêl y saint
o'r bedd :: mewn hedd
Yn more'r Jubili :: Ym more'r Iwbili

Peter Jones (Pedr Fardd) 1775-1845

Tôn [MC 8686]:
Abergele (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Bangor (The Harmony of Zion 1734)
Bedford (William Weale 1690-1727)
Maengwyn (Ifor ap Gwilym)
Silesia (Adam Kruger)
Turle (James Turle 1802-82)

gwelir: Y mae tosturi fel y mor

("Remember me.")
A sinner am I, the blackest alive,
  Mercy is my cry;
Lower thy ear and hear my outcry,
  O Lord, remember me!

There is mercy, like the sea
  Without measure in Thee;
Of thy grace, which is an endless store,
  O Lord, remember me!

Christ satisfied heaven fully,
  On the mountain of Calvary;
For the sake of his perfect, divine Atonement,
  O Lord, remember me!

My falsehoods great and small,
  Subjugate thou completely;
To purify me through thy Holy Spirit,
  O Lord, remember me!

While fording the old hated Jordan,
  I shall not sink in the flood;
Under the blows of bitter death,
  O Lord, remember me!

When the saints come up from the grave,
  In the morning of Jubilee,
to raise me perfect before thy face,
  O Lord, remember me!

When all are to be led cheerfully,
  Thy elect number,
To live in blessedness before thee,
  O Lord, remember me!
::
from the grave :: in peace
::

tr. 2009,11 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~