Pen Arglwydd nef a daear lawr

(Gweddi dros y deyrnas)
Pen Arglwydd nef a daear lawr,
Disgwyliwn wrth dy enw mawr!
  Ac yn y llwch yr ŷm fel hyn
  Yn ceisio gwedd dy wyneb gwỳn.

Mae'n beiau'n aml iawn dros ben,
Ac yn cyrhaeddyd hyd y nen,
  Gan alw arnom ddial maith
  Y llaw a'n cadwodd lawer gwaith.

Ond O! er mwyn y gweddill sydd
Yn rhodio 'th ffyrdd, a chadw'r ffydd,
  Bydd dirion wrth yr Ynys hon,
  Sy'n plygu eto ger dy fron.

O gwel ein dagrau, gwrando'n llef,
Ac arbed eto, Arglwydd nef;
  Amddiffyn ni rhag llid a brād
  Ac mewn trugaredd cadw'n gwlad.
Diferion y Cyssegr 1802

Tonau [MH 8888]:
Angelus (Georg Joseph)
Brynteg (John A Lloyd 1815-74)
Llawr-y-glyn (John Ashton 1830-96)
St Cross (John B Dykes 1823-76)

(Prayer for the kingdom)
Chief Lord of heaven and earth below,
We wait upon thy great name!
  And in the dust we are like this
  Seeking the countenance of thy bright face.

Our faults are very excessively frequent,
And reaching as far as the sky,
  While calling upon us vast retribution
  The hand which kept us many a time.

But O! for the sake of the remnant who are
Walking thy ways, and keeping the faith,
  Be tender towards this Island,
  Which is bowing still before thee.

O see our tears, hear our cry,
And save still, Lord of heaven!
  Defend us against wrath and treachery
  And in mercy keep our land!
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~