Pererin llesg a llaith, Dechreuais daith oedd bell, Trwy lu o elynion mawr eu brad, Gan geisio gwlad sydd well. Am ffoi mae f'enaid tlawd, At f'anwyl Frawd a'm Pen: Yn Salem fry par'to fy lle, Mewn llys o fewn i'r llen. 'Rwy'n gwel'd yr oriau'n hir, I fod o dir fy ngwlad; Bryd deuaf at fy mrodyr fry, Sy'n canu'n nhŷ fy Nhad? Gael gorphen ar fy ngwaith, A'm siwrnai faith īs nen: Yn Salem fry par'to fy lle, Mewn llys o fewn i'r llen.William Williams 1717-91 Tôn [MB 6686]: Southwell (Daman's Psalter 1579) Tôn [MBD 6686D]: Ymofyniad (<1876) gwelir: Fy ngweddi dos i'r nef Mae tywyll anial nos O Iesu'r meddyg da |
A pilgrim faint and weak, I began my journey which was long, Through a host of enemies of great treachery, Seeking a land which is better. Wanting to flee is my poor soul, To my dear Brother and my Head: In Salem above prepare my place In a court within the curtain. I am seeing the hours as long, To be from the land of my country; When shall I come to my brothers above, Who are singing in the house of my Father? To get an end to my work, And my extensive journey above the sky: In Salem above prepare my place, In the court within the curtain.tr. 2014 Richard B Gillion |
|