Plant caethion Babilon, Dont adre o dòn i dòn, Cânt wledda'n llon, mae'r dydd gerllaw, Yn ngŵydd eu Harglwydd da, O sŵn y byd a'i bla; O ddedwydd hâ'! pa bryd y daw? Angenus wyf o hyd Mewn trallodedig fyd, Ac nid oes fythol ddim i'w gael Gyflawna'm heisieu i gyd, A'm càna i oll yn nghyd, Ond haeddiant drud fy Iesu hael. 'Rwy'n nesu at yr awr I gael fy nhori i lawr, A'm dodi i orwedd lle bu ef; Lle i orphwys yno sydd, Hyd oni ddelo'r dydd Daw Iesu ar gymylau'r nef. Dysgwyliwn ronyn bach, Cawn ddod yn gwbl iach; Caniadau yna fydd heb ri': A'u sylwedd fydd y gwaed A ddyry in' iachâd, A'r goncwest gaed ar Galfari. Mi wna' fy nghartre' mwy Dan gysgod marwol glwy' 'Does noddfa addas tan y nef I'r euog gael glanhad, Ond yn y ffynnon rad O ddwfr a gwaed a gollodd Ef. Grawn-Syppiau Canaan ?1795
Tonau [668D]: gwelir: Rho nerth i ddwyn y groes |
The captive children of Babilon, Shall come home from wave to wave, They shall get to feast cheerfully, the day is at hand, In the presence of their good Lord, From the sound of the world and its plague; O happy summer! when will it come? Needy am I still In a troubled world, And there is nothing everlasting to be got That fulfills all my needs, And bleaches me altogether, But the costly merit of my generous Jesus. I am drawing near to the hour For me to get cut down, And get put to lay where he was; A place to rest there is there, Only until the day comes When Jesus comes on the clouds of heaven. I would expect in a little while, To get to become completely whole; There will be songs there without number: And their theme shall be the blood Which shall make us whole, And the conquest while was got on Calvary. I will make my home evermore Under the shadow of a mortal wound There is no appropriate refuge under heaven For the guilty to get cleansing, But in the gracious fount Of water and blood which He shed. tr. 2017 Richard B Gillion |
|