Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn, Lle mae Duw'n arlwyo gwledd, Lle mae'r awel yn sancteiddrwydd, Lle mae'r llwybrau oll yn hedd? Hyfryd fore Y caf rodio'i phalmant aur. Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn, Lle mae pawb yn llon eu cân, Neb yn flin ar fin afonydd Y breswylfa lonydd, lân? Gwaith a gorffwys Bellach wedi mynd yn un. Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn, Lle caf nerth i fythol fyw Yng nghartrefle'r pererinion, Hen dreftadaeth teulu Duw? O na welwn Dyrau gwych y ddinas bell. Iesu a'm dwg i'r ddinas gadarn, Derfydd crwydro'r anial maith, Canu wnaf y gainc anorffen Am fy nwyn i ben fy nhaith; Iachawdwriaeth Ydyw ei magwyrydd hi.J G Moelwyn Hughes (Moelwyn) 1866-1944
Tonau: |
Who will bring me to the secure city, Where God is providing a feast, Where the breeze is holiness, Where the paths are all peace? Delightful morning I will get to walk the golden pavement. Who will bring me to the secure city, Where everyone is of cheerful song, No-one exhausted on the edge of rivers Of the peaceful, holy dwelling? Work and rest Henceforth have become one. Who will bring me to the secure city, Where I will get strength to live forever In the home of the pilgrims, The old heritage of God's family? Oh that I may see The brilliant doors of the distant city! Jesus will bring me to the secure city, Wandering the vast desert will pass away, Sing I shall the unending strain About my being brought to my destination; Salvation Is its walls.tr. 2015 Richard B Gillion |
|