Pwy a ddeall ei gamweddau?

Salm 19. Rhan 3. (ad. 12—14)
(Aml gamweddau dyn)
Pwy a deall ei gamweddau?
  Pwy fynega'r rhai'n i gyd?
Myrdd o honynt sydd guddiedig,
  Heblaw'r miloedd wêl y byd;
Duw, glanhâ fi'n llwyr oddiwrthynt,
  Adnewydda fi â'th ras;
A rho rym i fwrw ymaith
  Bob rhyfygus bechod cas.

Pob ymadrodd ddêl o'm genau,
  Pob myfyrdod dan fy mron,
Fyddo mwy yn gymmeradwy,
  Arglwydd grasol, ger dy fron:
Ti yw Craig fy iechydwriaeth,
  Dal fi fynu tra fwy' byw;
Ti yw Prynwr drud fy enaid,
  Dwg fi'r nefoedd, O fy Nuw!
fynega rhai :: fynega'r rhai

1831 Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees)

[Mesur: 8787D]

Gwelir:
Rhan I - Y nef sy'n datgan mawredd Duw
Rhan II - Deddf Jehofa perffaith yw

Psalm 19. Part 3. (vv. 12-14)
(The manifold transgressions of man)
Who shall understand his transgressions?
  Who shall express all of them?
A myriad of them are hidden,
  Apart from the thousands the world sees;
God, cleanse me completely from them,
  Renew me with thy grace;
And give me power to cast away
  Every presumptuous, detestable sin.

Every utterance that comes from my mouth,
  Every meditation under my breast,
Be evermore acceptable,
  Gracious Lord, before thee:
Thou art the rock of my salvation,
  Hold me up while ever I live;
Thou art the dear Redeemer of my soul,
  Bring me to heaven, O my God!
::

tr. 2015 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~