Pwy ddylai gael ei garu?

(Neb fel Efe)
Pwy ddylai gael ei garu
  Mor annwyl ag Efe,
A ddaeth o fodd ei galon
  I farw yn fy lle?
Mae meddwl am ei berson,
  Ei boen a'i angau drud,
Yn denu fy serchiadau
  Oddi wrth drysorau'r byd.

Dymunwn bellach dreulio
  Fy nyddiau'n llwyr i ben,
I garu a rhyfeddu
  Y Gŵr fu ar y pren;
Heb roi fy serch na'm meddwl
  Ar unrhyw dda na dyn;
I'm Harglwydd gael fy nghalon
  Yn hollol iddo'i Hun.
Thomas Rees 1815-55

Tôn [7676D]: Rhyddid (alaw Gymreig)

(No-one like He)
Who ought to get loved
  As dearly as He,
Who came of his heart's desire
  To die in my place?
Thought about his person,
  His pain and his costly death,
Are attracting my affections
  Away from the treasures of the world.

I would wish henceforth to spend
  Out my days completely,
To love and to wonder at
  The Man who died on the tree;
Without putting my affection or my thought
  On any good or man;
For my Lord to get my heart
  Wholly for Himself.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~