Pwy gaiff ganu os nad plant bychain?

(Pwy sydd i ganu?)
Pwy gaiff ganu
    os nad plant bychain?
  Pwy gaiff ganmol Iesu mwyn?
Iesu Grist a ddaeth i'w cadw,
  Do, bu farw er eu mwyn:
Caiff: fe gaiff
    pant bychain ganu
  Yma'n llafar iawn eu llef;
A chânt uno byth
    heb dewi
  Yn yr anthem yn y nef.

Mae myrddiynau o blant bychain
  Yn y dyrfa nefol draw,
Yn eu gynau gwynion, goleu,
  A thelynau yn eu llaw:
Hyfryd iawn yw nef y nefoedd
  Gan beroriaeth y rhai hyn;
Plant y ddaear sydd i chwareu
  Tannau pêr Calfaria fryn.

Caru'r plant yr oedd yr Iesu,
  Peraidd iddo oedd eu sain;
Mae ei gariad yn y nefoedd
  Fel y moroedd at y rhai'n:
Dowch, nid ydyw yn rhy foreu
  I blant bychain ganu ei glod; -
Dowch, ac eiliwch Haleliwia
  I'r Hwn a'ch carodd cyn eich bod.
Perorydd yr Ysgol Sul 1915

Tôn [8787D]: Pwy sydd i ganu (alaw Americanaidd)
    (cynganeddwyd gan Ieuan Gwyllt 1822-77)

(Who is to sing?)
Who shall get to sing
    if not little children?
  Who shall get to praise gentle Jesus?
Jesus Christ who came to save us,
  Yes, he died for their sake:
They shall: little children
    shall get to sing
  Here with their loud voices;
And they may unite forever
    without being silent
  In the anthem in heaven.

Their are myriads of little children
  In the heavenly throng yonder,
In their bright, white gowns,
  And with harps in their hand:
Very delightful is the heaven of heavens
  Through the sweetness of these ones;
'Tis children of the earth who are to play
  The sweet strings of Calvary hill.

Loving the children was Jesus,
  Sweet to him was their sound;
His love in heaven is
  Like the seas towards them:
Come ye, it is not too early
  For little children to sing his praise; -
Come ye, and repeat ye Hallelujah
  To Him who loved you before you were.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Worship Resources ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~