Pwy mewn preseb gynt a gawd?

(Yr Addfwyn Iesu)
Pwy mewn preseb gynt a gawd?
    Iesu'r addfwyn Iesu!
Pwy dderbyniodd bod rhyw wawd?
    Iesu'r addfwyn Iesu!
Pwy ddyoddefodd angeu loes?
Pwy fu farw ar y groes?
Iesu Grist ei fywyd roes,
    Iesu'r addfwyn Iesu.

Pwy sy'n gwrando gweddi'r gwan?
    Iesu'r addfwyn Iesu!
Pwy sy'n eiriol ar ei ran?
    Iesu'r addfwyn Iesu!
Pwy sy'n wyn a thêg ei bryd,
Tecach fyrdd na
        cheinion byd?
Iesu Grist sy'n hardd i gyd!
    Iesu'r addfwyn Iesu.
James Spinther James (Spinther) 1837-1914

Tôn: Yr Addfwyn Iesu
    (William Batchelder Bradbury 1816-68)

(The Gentle Jesus)
Who was once found in a manger?
    Jesus, the gentle Jesus!
Who accepted there was some scorn?
    Jesus, the gentle Jesus!
Who suffered the throes of death?
Who died on the cross?
Jesus Christ his life he gave,
    Jesus, the gentle Jesus.

Who listens to the prayer of the weak?
    Jesus, the gentle Jesus!
Who intercedes on their behalf?
    Jesus, the gentle Jesus!
Who is white and fair of face,
A thousand times fairer than
      the world's fine things?
Jesus Christ is altogether beautiful!
    Jesus, the gentle Jesus.
tr. 2019 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~