Pwy welaf fel f'Anwylyd Yn hyfryd ac yn hardd, Fel ffrwythlon bren afalau'n Rhagori ar brennau'r ardd? Ces eistedd dan ei gysgod Mewn llawer cawod flin A'i ffrwyth oedd fil o weithiau I'm genau'n well na gwin. Duw edrych ar Dy winllan, Sy'n druan yn y drain, A chwyth yr utgorn arian, I'n galw o blith y rhai'n, A chyffwrdd â'n serchiadau, Enwaeda'n c'lonau a'n clyw, I weled pob rhyw olud Yn ofid heb fy Nuw. Rhyfeddod yw rhyfeddu, Na fedrwn garu'n fwy 'R Hwn droswyf ar Galfaria A gafodd farwol glwy', Gwyn fyd a welo'r bore I'n derbyn adre'n iach, Lle na cha'i boen na thrallod Gan bechod mawr na bach.John Thomas (Eos Gwynedd) 1742-1818 1: John Thomas (Eos Gwynedd) 1742-1818 2: William Williams 1717-91
Tonau [7676D]:
gwelir: Gwell wyt imi na'r bywyd |
Whom can I see like my beloved Lovely and beautiful, Like a fruitful apple tree Excelling the trees of the garden? I got to sit under his shade In many a wearying shower And his fruit was a thousand times To my mouth better than wine. God, look upon Thy vineyard, Which is wretched in the thorns, And blow the silver trumpet, To call us from amongst them, And deal with our affections, Circumcise our hearts and our hearing, To see every kind of wealth As a grief without my God. A wonder it is to wonder, That I cannot love more Him who for me on Calvary Received a mortal wound, Blessed is one who sees the morning To receive us home whole, Where I shall get no pain or trouble From sin great or small. 2010 tr. Richard B Gillion |
Who is like my Beloved, So comely and so fair, An apple tree, all laden With blossoms rich and rare? Beneath it I have sheltered From ev'ry storm malign; Its fruit to me was sweeter Ten thousand times than wine. Gethin Davies 1846-96 Llawlyfr Moliant yr Ysgol Sabbothol 1897
Tune [7676D]: Pwy Welaf fel f'Anwylyd? [d|dddrdt|dd] |