Pwy yw Hwn mor wan ac eiddi Plentyn morwyn dlawd ei byd A gysgodwyd mewn ystabl, Gafodd breseb oer yn grud? Arglwydd Iôr y greadigaeth Yn rhodfeydd yr anial yw; Mae yn Dduw o dragwyddoldeb, A pharha'n dragwyddol Dduw. Pwy yw Hwn, - y Gŵr gofidus, Trist Ei enaid wrtho'i Hun, Llesg, heb gartref, ac yn wylo Dros bechodau aflan ddyn? Fe yw'n Duw a'n Ceidwad grasol, Uwch y sêr mewn gwlad ddiglwy Sy'n par'toi yn awr drigfannau Lle ni chollir deigryn mwy. Pwy yw Hwn, - a'i chwys yn disgyn Yn ddefnynnau gwaed i lawr? Pwy yw Hwn sy'n wrthodedig O dan wawd a dirmyg mawr? Fe yw'n Duw, yr Hwn sy'n tywallt Gras a hedd i'r saint is-law; A brenhinol deyrnwialen Buddugoliaeth yn Ei law. Pwy yw Hwn yng nghrog sy'n marw Dan sarhad y byd a'i gur, Ac a deimla 'mhlith troseddwyr Goron ddrain a hoelion dur? Fe yw'n Duw sy'n byw'n dragywydd Gyda'i ddisglair dorf ddi-lyth, Yn y ddinas aur ddi-gwmwl Yn teyrnasu'n Frenin byth.Evan Rees (Dyfed) 1850-1923 [Mesur: 8787D] |
Who is He so weak and feeble A child of virgin of a poor world Who was sheltered in a stable, Who got a cold manger as a cradle? The Sovereign Lord of the creation In the avenues of the desert he is; He is God from eternity, And shall endure as eternal God. Who is He, - the grieved Man, Sad His soul by Himself, Faint, without home, and weeping For the unclean sins of man? He is our God and our gracious Saviour, Above the stars in a land without sickness Who is preparing now dwellings Where tears are nevermore to be shed. Who is This, - with his sweat falling As drops of blood to the ground? Who is He, who is rejected Under the great mocking and scorn? He is God, He who is pouring Grace and peace on the saints below; With a royal sceptre Of victory in His hand. Who is He on a gibbet dying Under the insult of the world and its blow, And who feels amongst the transgressors A crown of thorns and steel nails? He is God who is living in eternity With his shining, unfailing throng, In the golden, cloudless city Reigning as King forever.tr. 2016 Richard B Gillion |
|