'Roedd yn y wlad honno fugeiliaid yn gwylio

1,(2,3,4,5,6,7),8.
  'Roedd yn y wlad honno
  fugeiliaid yn gwylio
Eu praidd rhag
    eu llarpio'r un lle;
  Daeth angel yr Arglwydd
  mewn didwyll fodd dedwydd
I draethu iddynt newydd o'r ne',
  Gan hyddysg gyhoeddi
  fod Crist wedi'i eni,
Mawr ydyw daioni Duw Iôr;
  Bugeiliaid pan aethon'
  i Fethlem dre' dirion
Hwy gawson' Un cyfion mewn côr:
  Mab Duw tragwyddoldeb
  yn gorwedd mewn preseb
Tri'n undeb mewn purdeb heb ball,
  Cydganwn ogoniant
  yn felys ei foliant,
Fe'n tynnodd o feddiant
    y fall.

  Ni chafodd Mair burwen
  o amgylch ei bachgen
Na rhwymyn, na gwlanen yn glyd,
  Na pherlau, na pharlwr,
  na seigiau, na siwgwr,
I Brynwr a Barnwr y byd.
  Hi roes am yr Iesu
  gadachau i'w g'nesu,
A'r preseb yn wely'n ddi-wad,
  O gwelwch Mair ffyddlon
  mor isel, mor raslon
Yn magu'n dra thirion ei thad;
  Rhoes laeth i famaetha
  ei Brenin o'i bronnau,
A'i drin ar ei gliniau drwy glod;
  O'i chroth yr esgorodd,
  o'i dwyfron y porthodd
'R hwn ydoedd cyn bydoedd yn bod.

  Fe wybu'r sarff wrthun
  'r ysigid ei cholyn
Pan anwyd anwylddyn y ne',
  A'r ddraig a ddechreua
  ryw filain ryfela,
Ei harfau'n rhai llyma'n mhob lle:
  Rhoed diafol yng nghalon
  yr hen Herod greulon
I ladd y Mab ffyddlon
   heb ffael,
  Ond Mair gyda'i phlentyn
  i'r Aifft aeth yn sydyn
Lle methodd y gelyn ei gael:
  Ca'dd bechgyn bach Jwda
  eu lladd yn glanedda'
Wrth geisio cael difa Mab Duw,
  Er cymaint o'r bechgyn
  a laddodd y brenin
Mae Crist gyda'i fyddin yn fyw.

  Ei erlid a'i gablu
  a'i ddirfawr ddiystyru
A gafodd ein Iesu yma o hyd,
  Rhyw dlodion o ddynion
  oedd felly ei gyfeillion
Nid mawrion na beilchion y byd;
  Mae fe eto'r un moddion
  trwy ryfedd ymadroddion
Ymhlith y rhai gwaelion i'w gael:
  I'r cloffion a'r deillion,
  byddarion a mudion,
Mae'n feddyg da ffyddlon heb ffael,
  Mae'n Frenin trugarog,
  mae'n porthi'r newynog,
Mae'n galw rhai llwythog 'n un llu:
  I'r gwan mae'n Frawd ffyddlon,
  mae'n Dad i'r afradlon;
Fe'u derbyn yn dirion i'w dŷ.

  Mae Crist yn wir briod
  i'r Eglwys, Oen eurglod,
Ceir canfod rhyw ddiwrnod a ddaw;
  Fe fyn ei ddyweddi
  yn bur wedi ei golchi
Heb arni na brychni na braw:
  Sain utgorn uchelder
  a glywir ar fyrder
A'r meirw o bob dyfnder yn dod,
  A'r bachgen bach Iesu,
  oedd Mair yn ei fagu
Fydd eto yn ein barnu ni'n bod;
  Pan fo'n byd yn llosgi
  a'r moroedd yn berwi
Pob defnydd yn toddi mewn tân,
  Bydd holl blant yr Arglwydd
  yng Nghaersalem newydd
Lle y pery'n dragwyddol eu cân.

  Arch Noah pan ydoedd
  uwchlaw y mynyddoedd
Ni chadwodd o'r dyfroedd ond wyth,
  Crist ydyw'r arch nerthol
  rhag dilyw tragwyddol
Bydd bywiol a llesol y llwyth;
  Pob enaid nas daethon'
  i'r arch at No' ffyddlon
Boddason' o fawrion i fân:
  Pob enaid nas gwelir
  yng Nghrist yr arch cywir
Mae'n bur wir y llosgir yn lân:
  Fe lysg yr annuwiol
  mewn ffwrnais uffernol
Lle bydd yn dragwyddol eu gwae,
  Mewn carchar diddiwedd
  holl ddrysau trugaredd
Yn caffael o'u cyrraedd, eu cau.

  At Grist a'i bur gariad
  mae heddiw wahoddiad:
Mae lle i bechaduriaid gael dod,
  I'r farn rhaid ein galw,
  gwell Crist y dydd hwnnw
Nag aur wedi ei gadw mewn cod;
  Ffown, ffown i'r 'mddiffynfa
  fel Lot a Sodoma,
Rhag caffael ein difa'r un dydd;
  O'r Aifft gwell ymado
  er cael ein gw'radwyddo
Na boddi fel Pharo ddi-ffydd,
  Gwell myned i'r bywyd
  fel Laz'rus o'i adfyd
Oedd rywbryd yn nychlyd ei nyth
  Na Deifas o'i fawrfri
  yn gorfod bod wedi
A'r fflamau'n ei boeni fe byth.

  Nac ofnwch, blant Seion,
  fe welir duwiolion
A'u gynau'n dra gwynion i gyd,
  Yn lân wedi'u cannu
  yng ngwerthfawr waed Iesu,
Er maint fu
    i'w baeddu'n y byd;
  Yn rhyddion o'u cystudd
  yn canmol eu Harglwydd,
Yn cario hardd balmwydd bob un
  Mewn teyrnas uwch daear,
  fel haul yn dra hawddgar,
Heb garchar na galar na gwŷn:
  A'r bachgen bach Iesu
  fydd testun y canu,
Fu'n gwaedu i'n prynu ar y pren;
  Yn ffyddlon gantorion,
  o nifer plant Seion,
Bôm ninnau'r un moddion, Amen.
John Richards (Siôn Ebrill) 1745-1836

Tôn [12.8.12.8.D]:
  'R oedd yn y wlad honno (alaw Gymreig)
    (trefn. Caradog Roberts 1878-1935)

  There were in that land
  shepherds watching
Their flock against
    their being mauled in the same place;
  The angel of the Lord
  in sincere happy pleasure
To expound to them news from heaven,
  Skilfully publishing
  that Christ had been born,
Great is the goodness of the Lord God;
  Shepherds when they went
  to gentle Bethlehem town
They found the Righteous One in a stall:
  The Son of the God of eternity
  lying in a manger
Three in unity in purity without fail,
  Let us sing together the glory
  sweetly of his praise,
He has drawn us from the possession
    of the evil one.

  Pure blessed Mary did not get
  around her boy
Either a bandage, or cosy flannel,
  Or pearls, or parlour,
  or dishes, or sugar,
For the Redeemer and Judge of the world.
  She put around Jeus
  cloths to warm him,
And the manger as a bed undeniably,
  O see ye faithful Mary
  so lowly, so graciously
Bringing up her father so tenderly;
  She gave milk to suckle
  her King from her breasts,
And treat him on her knees with praise;
  From her womb she gave birth,
  from her breasts she fed
Him who was before the worlds existed.

  The offensive serpent knew
  his sting would be crushed
When the beloved of heaven was born,
  And the dragon began
  some malicious was,
He weapons some of the sharpest anywhere:
  The devil put into the heart
  of the old cruel Herod
To kill the faithful Son without fail,
  But Mary with her child
  to Egypt went suddenly
Where the enemy failed to get him:
  The little boys of Judah got
  killed in a slaughter
While he tried to destroy the Son of God,
  Despite how many of the boys
  the king killed
Christ is with his army alive.

  His persecution and his blasphemy
  and his enormous disregard
Our Jesus has always got here,
  Some poor of men
  were thus his friends
Not the great nor the proud of the world;
  He is still the same means
  through wonderful reports
Amongst those poor ones to be found:
  To the lame and the blind,
  deaf and mute,
He is the good faithful physician
    without fail,
  He is a merciful King,
  he is feeding the hungry,
He is calling the burdened as one throng:
  To the weak he is a faithful Brother,
  he is a Father to the prodigal;
He receives them tenderly into his house.

  Christ is a true spouse
  to the Church, a praiseworthy Lamb,
It can be found on some day to come;
  He wants his betrothed
  pure having been washed
With no spot or terror upon her:
  The sound of a trumpet from the height
  shall be heard suddenly
And the dead from every depth coming,
  And the little boy Jeus,
  whom Mary was raising
Shall again judging us be;
  When our world is burning
  and the seas boiling
Every substance melting in fire,
  All the children of the Lord shall be
  in new Jerusalem
Where their song shall endure eternally.

  The ark of Noah, when it was
  above the mountains
Kept from the waters only eight,
  Christ is the strong ark
  against an eternal deluge
Lively and thriving shall be the tribe;
  Every soul that did not come
  to the ark to faithful Noah
Drowned from great ones to small:
  Every soul that is not seen
  in Christ the true ark,
It is utterly true, shall be burned up:
  He shall burn the ungodly
  in an infernal furnace
Where eternal shall be their woe,
  In an endless prison
  all the doors of mercy
Getting, on their arrival, closed.

  To Christ and his pure love
  there is today an invitation:
There is a place where sinners may come,
  To the judgment we must be called,
  better Christ on that day
Than gold having been kept in a purse;
  Let us flee, flee to the refuge
  like Lot from Sodom,
Let we get destroyed the same day;
  From Egypt we had better depart
  though getting disgraced
Than drowning like faithless Pharaoh,
  Better to go to the life
  like Lazarus from his adversity
Who once had a base hovel
  Than Divas out from his great renown
  to have been forced
And the flames paining him forever.

  Do not fear, children of Zion,
  to be seen are the godly
With all their robes so white,
  Clean having been bleached
  in the precious blood of Jesus,
Despite how great was
    their being beaten in the world;
  Free from their tribulation
  praising their Lord,
Carrying beautiful palms every one
  In a kingdom above the earth,
  like the sun so beautiful,
Without prison or lamenting or complaint:
  And the little boy Jesus
  will be the theme of the singing,
He bled to redeem us on the tree;
  Faithful singers
  of the number of the children of Zion
May we also be in the same way, Amen.
tr. 2015,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~