'R wy'n awr wrth gofio anfeidrol gur Dyoddefaint y Meseia gwiw, Fel un yn teimlo rhan o'i loes, A'i boenau drud o'i gryd i'w groes. 'R wy'n cofio am ei ymdrech mawr, Pan oedd ei chwys yn llifo 'r llawr, Ar noswaith oer yn ddafnau gwaed, Wrth yfed cwpan dig ei Dad. Mi gofìa'r ffyrnig dorf a'u ffyn I ddala'm Llywydd mawr yn llyn, Gan waeddi maes âg uchel lef, "Croeshoelia, O! croeshoelia Ef." 'R wy'n cofio ei ddiosg yn eu gwydd, Ac yntau 'n tewi â son yn rhwydd; Rhai 'n poeri ac yn plygu glin, Tost ca's fy Iesu mawr ei drin! 'R wy'n cofìo'r goron ddrain a'i chur, Y fantell goch, a'r liccer sur; Y gorsen wael, a'r gwawd, a'r cri, Wrth gario ei groes i Galfari. 'R wy'n cofio'r hoelion dewrion dur, A'u pwyo yn nwylo'r Brenin pur; A hoelio ei draed yn nghroes ar bren, Ac yntau heb 'nganyd gair o'i ben. 'R wy'n cofio yno i'r Oen di-frad Weddio drostynt, “ Maddeu, O Dad;” Ac iddo yno ogwyddo ei ben, A d'weyd, "Gorphenwyd" ar y pren. 'R wy'n cofio gyru 'r waywffon Gan filwr ffyrnigdan ei fron, Nes ffrydio o'i galon ddw'r a gwaed Wrth brynu imi bardwn rhad. 'R wy'n cofio mai o'r chweched awr I'r nawfed, bu tywyllwch mawr; Pryd hyny cododd Crist ei gri, - "Eloi, Lama Sabachthani!" 'R wy'n cofio i len y deml fawr I rwygo 'n ddau o fry hyd lawr; A'r maen a'r beddau i agori'n glau Pan ca's cyfiawnder ei foddhau. 'R wy'n cofio claddu ei gorff yn friw, 'Nol talu dyled dynol-ryw; 'N ol tridiau 'Fe ddyrchafai ei ben, Boed iddo 'r moliant byth, Amen.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: |
I am now, on remembering immeasurable hurt That Jesus the true Messiah suffered, Like one feeling part of his anguish, And his costly pains from his crib to his cross. I remember his great struggle, When his sweat was flowing down, On a cold evening as drops of blood, While drinking the cup of his Father's anger. I remember the furious throng with their sticks To hold my great Leader thus, Shouting out with a loud call, "Crucify, O crucify him!" I remember his stripping in their presence, And he declining to speak freely; Some spitting and bowing a knee, Sorely did my great Jesus get treated! I remember the crown of thorns and its hurt, The red mantle, and the sour liquor; The bad reed, and the scorn, and the cry, While carrying his cross to Calvary. I remember the strong steel nails, And their bashing into the hands of the pure King; And the nailing of his feet into the cross on the tree, And he without the uttering of a word from his head. I remember there the loyal Lamb Praying for them, "Forgive, O Father;" And that there he bowed his head, And said, "It is finished" on the tree. I remember the driving of the spear By a furious soldier under his breast, Until there streamed from his heart water and blood Purchasing for me a free pardon. I remember that from the sixth hour To the ninth, there was a great darkness; At that time Christ raised his cry, - "Eloi, Lama Sabachthani!" I remember the curtain of the great temple Tearing in two from top to bottom; And the stone and the graves opening quickly When righteousness was satisfied. I remember the burying of his body, bruised Until the debt of human-kind was paid; After three days he would raise his head, To him be praise forever, Amen.tr. 2024 Richard B Gillion |
|