'R wyf yma mewn anghenion Ym mro y cystudd mawr; A suddo mae fy nghalon Yn is o hyd i lawr; Er mwyn y groes fendigaid, Ac angau Calfari, O! Arglwydd, arwain f'enaid I'r Graig sydd uwch na mi! Addewaist, o'th ddaioni, Ddyrchafu'r eiddil gwan; A threfnaist ffordd i'w godi O'r pydew dwfn i'r lan; Trugarog wyt wrth elyn, Er cefnu arnat Ti; O! Arglwydd, gad im esgyn I'r Graig sydd uwch na mi! Rho brofiad o rinweddol Haeddiannau pur y gwaed; A chanaf yn ddihangol, A'r Graig o dan fy nhraed; Pan droir yr haul yn dywyll, Pan gyll y sêr eu bri, O! Arglwydd, gad im sefyll Ar Graig sydd uwch na mi!1 : William Lewis, Llangloffan. 2-3: Evan Rees (Dyfed) 1850-1923
Tonau [7676D]: |
I am here in needs In the vale of the great tribulation; And sinking is my heart Lower and still lower; For the sake of the blessed cross, And the death of Calvary, O Lord, lead my soul To the Rock that is higher than I! Thou didst promise, of thy goodness, To lift up the feeble weak; And thou didst plan a way to raise him Up from the deep pit; Merciful art thou to an enemy, Despite his turning his back on thee; O Lord, let me ascend To the Rock that is higher than I! Give an experience of the pure Efficacious virtues of the blood; And I shall sing, freed, With the Rock under my feet; When the sun is turned to darkness, When the stars lose their glory, O Lord, let me stand On a Rock that is higher than I!tr. 2020 Richard B Gillion |
|