'R wyf yn foddlawn iawn i ymado, Trefna'r awr, a threfna'r màn, Ond yn ymchwydd yr Iorddonen Dàl fy ysbryd llesg i'r làn; N'âd fi soddi yn y tònau Pan b'o angeu'n fawr ei rym, 'Mafael ynof yn Dy freichiau, N'âd i'm henaid ofni dim. P'am 'r ymafael tristwch ynof Wrth fyfyrio am ado'r byd? Pechod a chystuddiau duon Welais ynddo oll i gyd; Ni ddaeth hanner fy nisgwyliad Yma eto erioed i ben; O! na wnaethwn yn foreuach Fy nghartrefle uwch y nen! Mae 'nghyfeillion wedi myned Draw yn lluoedd o fy mlaen, Rhai fu'n myn'd trwy ddyffryn Bacca Gyda mi tua Salem lân: Yn y dyffryn tywyll, garw, Ffydd i'r làn a'u daliodd hwy; Mae'r addewid lawn i minnau: P'am yr ofna'm henaid mwy?William Williams 1717-91 Tôn [8787D]: Bohemia (Darmstädter Gesangbuch 1698) gwelir: Dyma'r byd y mae taranau |
I am very content to leave, Arrange the hour, and arrange the place, But in the swelling of the Jordan Hole my feeble spirit up; Do not let me sink in the waves When death is of great force, Take hold of me in thy arms, Do no let my soul fear anything. Why does sadness take hold of me On meditating on leaving the world? Sin and black tribulations All I saw in it altogether; Not half my expectations here Ever came to pass; O that I might earlier Make my home above the sky! My friends have gone Yonder in hosts before me, Some had gone through the vale of Bacca With me towards holy Salem: In the dark, rough valley, 'Twas faith that held them up; The promise is full to me too: Why does my soul fear any more?tr. 2020 Richard B Gillion |
|