'R wyf yn teimlo gwynt y deheu Yn anadlu awel bur, Ac yn ysgafn gario f'enaid Draw i fryniau'r Ganaan dir: Aeth y gauaf garw heibio, Darfu'r oer dymhestlog wynt; Na ddoed mwy'r cawodydd duon I fy mlino megys gynt. Anhawdd yfed dyfroedd chwerwon, Er mai dyfroedd chwerwon iawn Ydyw haeddiant fy mhechodau O foreuddydd glâs hyd nawn; Tro fy chwerwder yn felusdra, Tro fy ngwenwyn câs yn wîn; Mi ro'f glôd, mi ro'r gogoniant, I'th ddoethineb Di Dy Hun.William Williams 1717-91
Tonau [8787D]: |
I am feeling the south wind Breathing a pure breeze, And lightly carrying my soul Yonder the the hills of the land of Canaan: The rough winder has gone past, The cold tempestuous wind has ceased; May no more black showers come To grieve me like before. Difficult to drink bitter waters, Although very bitter waters Belong to my sins From early morning until evening; Turn my bitterness into sweetness, Turn my detestable poison into wine; I shall give praise, I shall give the glory, To thine own wisdom.tr. 2021 Richard B Gillion |
|