Rho d'arweiniad Arglwydd tirion

Rho d'arweiniad, Arglwydd tirion,
  I'th lān Eglwys yn ein tir;
I'w hoffeiriaid a'i hesgobion
  Dyro weledigaeth glir;
Gwna'i haelodau yn ganghennau
  Ffrwythlon o'r winwydden wir.

Boed i gadarn ffydd ein tadau
  Gadw d'Eglwys rhag sarhad:
Boed i ras ein hordinhadau
  Buro a sancteiddio'n gwlad:
Boed i'w gwyliau a'i hymprydiau
  Chwyddo'r mawl yn nhŷ ein Tad.

Gwna dy Eglwys yn offeryn
  I'th fawrygu
      drwy'r holl fyd:
Ym mhob gwlad doed corff y werin
  I'th foliannu o un fryd
Yng ngweledig ac unedig
 Gorff dy Fab, ein ceidwad drud.
Timothy Rees 1874-1939

Tonau [878787]:
Bridport (John Ambrose Lloyd 1815-84)
Alleluia Dulce Carmen (The Church Plain Chant 1782)
Oriel (Cantica Sacra 1840)
Regent Square (Henry Smart 1813-79)
Rhuddlan (alaw Gymreig)
Westminster Abbey (Henry Purcell 1659-95)

Give thy leading, tender Lord,
  To thy holy Church in our Land;
To her priests and her bishops
  Give a clear vision;
Make her members fruitful
  Branches of the true vine.

Let the firm faith of our fathers
  Preserve thy Church from insult:
Let the grace of our ordinances
  Purify and sanctify our land:
Let its festivals and its fasts
  Swell the praise in our Father's house.

Make thy Church a means
  To magnify thee
      throughout the whole world:
In every land let the body of people come
  To praise thee with one mind
In the visible and united
  Body of thy Son, our precious Saviour.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~