Rho imi weld y ddinas Nad ydyw o waith llaw, Yn disgyn yn ei thegwch Dros drothwy'r oes a ddaw; Heb ynddi fyth i'w blino Na loes na chwerw lef; O! Arglwydd, gad im weled Jeriwsalem o'r nef. Rho imi weld y ddinas - Gwaith Duw a dyn ynghyd; A'i llwybrau aur yn cyrraedd Hyd erwau pella'r byd; Duw'n trigo gyda dynion, Hwy'n bobol iddo Ef: O! Arglwydd, gad im weled Jeriwsalem o'r nef. Rho imi weld y ddinas Na bydd wrth fesur dyn, Ei thyrau'n ymddyrchafu Yng Nghymru fach ei hun; Ac yno'r genedl gyfiawn Yn dyfod oll i dref; O! Arglwydd, gad im weled Jeriwsalwm o'r nef.Richard Samuel Rogers 1882-1950 Tôn [7676D]: Tal-y-Llyn (alaw Gymreig) |
Grant me to see the city That is not the work of hands, Descending in her fairness Across the threshold of the coming age; With never anything in her to grieve her Nor anguish nor bitter cry; O Lord, let me see Jerusalem from heaven! Grant me to see the city - The work of God and man together; And her golden paths reaching As far as the world's furthest acres; God dwelling with men, They as his people: O Lord, let me see Jerusalem from heaven! Grant me to see the city That shall not be by man's measure, Her towers rising up In little Wales itself; And there the righteous nation All coming home; O Lord, let me see Jerusalem from heaven.tr. 2021 Richard B Gillion |
|