Rho inni weledigaeth Ar dy frenhiniaeth di Sy'n estyn o'r mynyddoedd Hyd eithaf tonnau'r lli; Ni fynnwn ni ymostwng, Yn rhwysg ein gwamal oes Ond i'th awdurdod sanctaidd A chyfraith Grist a'i groes. Gwisg wisgoedd dy ogoniant Sy'n harddach fil na'r wawr, A thyred i feddiannu Dy etifeddiaeth fawr; A thywys, o'th dosturi, Dylwythau'r ddaear las O grinder llwm anobaith I deyrnas bur dy ras. Dy eiddo ydyw'r orsedd O oes i oes o hyd; Ni syfl ei seiliau cedyrn Yn nherfysg gwyllt y byd: Pan syrth gorseddau'r ddaear I'r llwch yn chwalfa sarn, Bydd gorsedd dy gyfamod Yn fywyd ac yn farn.David Rees Griffiths (Amanwy) 1882-1953 Caneuon Amanwy 1956
Tonau [7676D]: |
Give us a vision Of thy kingship That extends from the mountains To the utmost waves of the flood; We will not submit In the presumption of our fickle age But to thy sacred authority And the law of Christ and his cross. Wear the garments of thy glory Which are a thousand times more beautiful than the dawn, And come to take possession Of thy great inheritance; And lead, by thy mercy, The tribes of the blue-green earth From the aridity of bare hopelessness to the pure kingdom of thy grace. Thine own is the throne From age to age always; Its firm foundations shall not shift In the wild tumult of the world: When the thrones of the earth fall Into the dust as trampled waste, The throne of thy covenant shall be Life and judgment.tr. 2024 Richard B Gillion |
|