(O!) Rhwyga'r tew gymylau duon

1,2,(3,(4));  1,3.
Rhwyga'r tew gymylau duon,
  Guddiant wedd
      dy wyneb gwiw;
Nid oes bleser a'm dyddana,
  Ond yn unig ti fy Nuw;
Môr di-drai o bob trugaredd,
 Ydyw'r iachawdwriaeth lawn,
Lifodd allan mewn bendithion,
  Ar Galfaria un prydnawn.       [NW][ *]

Ffrydiau tawel byw rhedegog,
  O dan riniog
      tŷ fy Nuw,
Sydd yn llanw ac yn llifo
  O fendithion o bob rhyw:
Dyfroedd gloew fel y grisial,
  I olchi'r euog, nerthu'r gwan.
Ac a gana'r
    Ethiop duaf
  Fel yr eira yn y man.          [NW]

O! am yfed yma beunydd
  Ffrydiau'r iachawdwriaeth fawr,
Nes fy hollol ddisychedu
  Am siomedig bethau'r llawr;
Byw dan ddysgwyl am fy Arglwydd,
  Bod pan ddelo'n effro iawn,
I agoryd iddo'n ebrwydd,
  A mwynhau ei ddelw'n llawn.    [AG]

O na chawn i dreulio ' nyddiau
  'N fywyd o ddyrchafu'r gwaed!
Llechu o dan gysgod f'Arglwydd,
  Byw a marw wrth ei draed;
Codi'r groes a'i
    chyfri'n goron,
  Am mai croes fy Mhrynwr yw,
Ymddifyru yn ei Berson,
  A'i addoli Ef, fy Nuw.         [AG]
Guddiant wedd dy :: Sydd yn cuddio'th
Ydyw'r :: Ydyw'th
gloew :: gloywon
I olchi : Olcha
nerthu :: nertha
hollol :: nghwbwl :: nghwbl
- - - - -
1,(2),3.
O! rhwyga'r tew gymylau duon
  Sy'n cuddio gwedd
      dy ŷyneb gwiw;
Nid oes bleser a'm diddana
  Ond yn unig Ti, fy Nuw:
Môr di-drai a bob trugaredd
  Yw'r iachawdwriaeth fawr ei dawn
A lanwodd ac a lifodd allan
  Ar Galfaria un prynhawn.       [NW]

O! am yfed yma beunydd
  O ffrydiau'r iachawdwriaeth fawr,
Nes fy nghwbl ddisychedu
  Am ddarfodedig bethau'r llawr;
Byw dan ddysgwyl am fy Arglwydd,
  Bod pan ddelo'n effro iawn,
I agoryd iddo'n ebrwydd,
  A mwynhau ei ddelw'n llawn.    [AG]

Ffrydiau tawel byw rhedegog,
  O dan riniog
      tŷ fy Nuw,
Sydd yn llanw ac yn llifo
  O fendithion o bob rhyw:
Dyfroedd gloyw fel y grisial,
  I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a ganna'r
    Ethiop duaf
  Fel yr eira yn y man.          [NW]
Yw'r :: Yw'th
ganna :: gànu

[NW]: Nathaniel Williams 1742-1826
[ *]: Neu/Or William Williams 1717-91
[AG]: Ann Griffiths 1776-1805

Tonau:
Dre-Hir (Edward Arthur 1874-1948)
Eryl (J Morgan Lloyd 1880-1960)
Esther (John Roberts 1822-77)
Gaerwen (alaw Americanaidd)
Hyfrydol (R H Pritchard 1811-87)
Lyons (1542 Louis Bourgeois)
Noddfa (Hugh Jones 1863-1933)
Prysgol (William Owen 1813-93)
Rhewl-Hir (D E Parry-Williams 1900-96)
Sanctus (J Richards [Islaw] 1843-1901)

gwelir:
Addurna'm henaid â dy ddelw
'Does unrhyw bleser yn y byd
Ffrydiau tawel byw rhedegog
Llwybyr cwbwl groes i natur
Mewn t'w'llwch dudew 'rwyf yn byw
Ni welodd llygad dyn erioed
Nid oes gwrthddrych ar y ddaear
Pechadur aflan yw fy enw
Wyneb siriol fy anwylyd

 
Rend the thick black clouds,
  They hide the countenance
      of thy worthy face;
There is no pleasure which comforts me,
  But only thee my God;
A sea unebbing of every mercy,
  Is the full salvation,
Which flowed and which streamed out,
  On Calvary one afternoon.

Quiet, living streams running,
  From under the threshold
      of my God's house,
Which are flooding and streaming
  From blessings of every kind:
Shining waters like the crystal,
  To wash the guilty, strengthen the weak.
And which will bleach
    the blackest Ethiopian
  Like the snow soon.

Oh to drink here daily,
  Streams of the great salvation,
Until I am wholly refreshed
  From the passing things of earth below;
To live waiting for my Lord,
  To be when he comes very awake,
To open to him speedily,
  And to enjoy his image fully.

O that I may spend my days
  As a life of exalting the blood!
Lurking under the shadow of my Lord,
  Living and dying at his feet;
Lifting the cross and
    counting it as a crown,
  Since my Redeemer's cross it is,
To delight in his Person,
  And worship Him, my God.
They hide the countenance of thy :: Which hide thy
Is the :: Is thy
::
To wash :: Wash!
to strengthen :: strengthen!
::   ::
- - - - -
 
Oh rend the thick black clouds,
  Which hide the countenance
      of thy worthy face;
The is no pleasure which entertains me
  But Thou alone, my God:
An unebbing sea of every mercy
  Is the salvation of great gift
Which flooded and which streamed out
  On Calvary one afternoon.

Oh to drink here daily
  From the streams of the great salvation,
Until I completely lose my thirst
  For the passing things of the earth;
To live while waiting for my Lord,
  To be when he comes very awake,
To open to him speedily,
  And enjoy his image fully.

Quiet, living streams running,
  From under the threshold
      of my God's house,
Are flooding and streaming
  With blessings of every kind:
Clear waters like the crystal,
  To wash the guilty, strengthen the weak,
And which will bleach
    the blackest Ethiopian
  Like the snow soon.
::
::

tr. 2009,11 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~