Rhyfedda hyd a lled, Fy enaid trist, Uchder a dyfnder maith Marwolaeth Crist; Pan gym'rodd agwedd gwas, A phechod cas ei blant, Trwy farw yn ddi-gŵyn I'w dwyn i bant. Fe gym'rodd arno'n cnawd, O ein brawd ni; Safai ar ben y bryn, Gwnai, 'n erbyn llu; Gan sathru dan ei draed, Trwy'i briod waed ei hun, Ellyllon ar fyr dro, Heb ado'r un. Aeth dan y gyfraith faith, Hedd ddaeth i ni; Taraned Sinai gaeth, Beth waeth gen'i: Y llwybyr bellach sydd Yn rhydd i'r nefol wlad, Ac nis gall gelyn dyn Ddwyn un o'i had. 1,(2,(3)),4,5; 1,3,(4,5). Rhyfedda hŷd a lled, Fy enaid trist, Uchder a dyfnder maith Marwolaeth Crist; Pan gym'rodd agwedd gwas, A phechod cas ei ryw, Bu farw yn ddi gwyn I'm dwyn at Dduw. Fe gymmerth arno'n cnawd, Ein brawd o'r bru; Fe safai ar y bryn, Yn erbyn llu; Gan sathru dan ei draed, Trwy'i briod waed ei hun, Elynion ar fyrr dro, Heb ado un. Fe dalai a'i ddwylo ar led, Ein dyled ni, O'i sanctaidd ddwylo a'i draed, Daeth gaed yn lli'; A hyn o'i 'wyllyw rydd, Can's gwelai ddydd yn d'od, Y ca i elynion yn mhob man, Lawr dan ei droed. Aeth tan y gyfraith faith, Hedd ddaeth i ni; Mwy t'raned Sinai gaeth, Beth waeth gan i? Mae'r llwybr idd ei gol, Yn rhydd i'r nefol had; Ni fedra Satan serth Ddwyn gwerth ei waed. 'N ol rhoddi'n Arglwydd hael, Yn wael ei wedd, (Rhyfeddod mwya' erioed!) Yn ngwaelod bedd; Ond ar y trydydd dydd Yn rhydd yr aeth Efe, Palmantodd lwybr gwych I entrych ne'. 'N ol gorphen ar ei waith, I'r nef aeth Ef, Lle mae Ef yr awr hon Yn gwrandaw'n llef; Yn eiríol drosom draw; Ar fyr fe ddaw'n rhyddhau; Mae'r amser ddydd a nos Yn agoshau.William Williams 1717-91
Tonau [6464.6664]: gwelir: 'Nol/'Rol rhoddi'n Harglwydd hael |
Wonder length and breadth, My sad soul, Height and depth of extent Of the death of Christ; When he took the aspect of a servant, And the detestable sin of his children, Through dying without complaining To take them away. He took upon himself our flesh, O our brother; He would stand on top of the hill, He would, against a host; While trampling under his feet, Through his very own blood, Demons shortly turn, Without leaving any. He went under the extensive law, Peace came to us; Let captive Sinai thunder, What matter to me? The path henceforth is Free to the heavenly land, And no enemy of man can Take one of his seed. Wonder length and breadth, My sad soul, Height and depth of extent Of the death of Christ; When he took the aspect of a servant, And the detestable sin of his kind, Through dying without complaining To take them to God. He took upon himself our flesh, Our brother from the womb; He would stand on the hill, Against a host; Trampling under his feet, Through his very own blood, Enemies in a short time, Without leaving any. He held with his hands widespread, Our debt, From his sacred hands and his feet, Came blood as a flood; And this of his free will, Since I see the day coming, I shall have enemies in every place, Down under his foot. He went under the extensive law, Peace came to us; Let captive Sinai thunder evermore, What matter to me? The path to his bosom is, Free to the heavenly seed; Surly Satan cannot Take away the worth of his blood. After placing our generous Lord, Of a lowly appearance, (The greatest wonder ever!) In the bottom of the grave; But on the third day Free came He, He paved a brilliant path To the vault of heaven. After finishing his work, To heaven went He, Where He is right now Listening to our cry; Interceding for us yonder; Shortly he will come freeing us; The time is day and night Drawing nearer.tr. 2015,21 Richard B Gillion |
|