Rhyfeddaf byth ddoethineb Duw

1,2,(3),4.
(Am ddoethineb Duw)
Rhyfeddaf byth ddoethineb Duw,
Yn trefnu ffordd i ni gael byw;
  A'r Iesu ffynnon bywyd pur,
  Yn marw dan yr hoelion dur.

Os edrych wnaf i Galfari,
Caf wel'd doethineb sanctaidd Dri;
  Cyfoethog Dduw, yn ddyn tylawd,
  Yn goddef dirmyg, poen, a gwawd.

Cyfiawnder pur yn cael boddâd,
Yn gwaeddi boddlon yn y gwaed;
  A'r meddyg yno marw wnai,
  A rhoddi'i waed i'n llwyr iachâu.

Gan fod doethineb Duw mor fawr,
An yntau'n Arglwydd nef a llawr;
  'Fe fedr wneud pob chwerw nant,
  O fawr ddaioni i'w ei blant.
Caniadau Bethel (Casgliad Evan Edwards) 1840

[Mesur: MH 8888]

(About the wisdom of God)
I will wonder forever at the wisdom of God,
Arranging a way for us to get to live;
  And Jesus the fount of pure life,
  Dying under the steel nails.

If look I do to Calvary,
I can see the wisdom of a holy Three;
  Wealthy God, as a poor man,
  Suffering scorn, pain, and mocking.

Pure righteousness getting satisfaction,
Shouting satisfied in the blood;
  And the physician there die he would,
  And give his blood to heal us completely.

Since the wisdom of God is so great,
And he Lord of heaven and earth;
  He can make every bitter stream,
  Of great goodness to his children.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~