1,2,3,4,(5); 1,3,4. 'Rwy'n dy garu, addfwyn Iesu - Uwch pob geiriau i'w ddodi 'maes Yw dy gariad, yw dy heddwch, Yw d'anfeidrol ddwyfol ras; Yn nhafodiaith nefoedd olau, Mi gaf draethu, 'mhlith y llu, Gyda blas sydd uwchlaw deall, Hen ddirgelion nefoedd fry. Yna caf fi ddechreu hanes, Hanes o lawenydd pûr, Fyth ni chlywir diwedd arno, Yn y paradwysaidd dir; Bob munudyn bydd yn dechreu Swnio 'maes heb dewi' sôn, Doniau maith anfeidrol hyfryd, Croeshoeliedig addfwyn Oen. Bydd dy degwch fyth yn newydd, Fyth o newydd ennyn dân, Trwy holl oesoedd tragwyddoldeb, Fyth heb flino yn y blaen; Fflam angerddol, heb un terfyn, Trwy holl raddau'r nef yn un, Hi barha i losgi'n olau Tra parhao Duw ei Hun. Nid oes ond dy fawredd dwyfol, Yn y nef nac ar y llawr, Allsai ennyn y fath gariad Ag wyf yn ei brofi'n awr; Pwy sefydlai f'ysbryd gwamal, Pwy'm gosodai yn fy lle, Ond yr Hwn, heb derfyn arno, Sy'n berffeithrwydd daer a ne'? Yno erys fy nedwyddwch, Heb gymmysgu, fyth yn un; Digyfnewid gwrthddrych cariad, Felly cariad pur ei hun; 'R un fydd Duw i dragwyddoldeb - Môr o gariad heb ddim trai; Fel efe bydd fy hapusrwydd - Diderfynol, yn parhau. Mi gaf draethu :: Caf fi draethu sydd uwchlaw deall :: na ellir ddeall Ag wyf yn ei brofi :: Ag wy'n'brofi ynwy Diderfynol, :: Ffrwd lifeiriol - - - - - Mae dy gariad, addfwyn Iesu, Uwch pob geiriau 'i ddodi maes; Annherfynol a thragwyddol Yw dy rad anfeidrol ras: Hyn yw ffynon fy llawenydd Yma yn yr anial maith; Hyn fydd testyn pêr ganiadau Sïon, draw ar ben y daith. Yno caf fi seinio'r anthem, Anthem o lawenydd pur; Byth ni chlywir diwedd arni Yn y paradwysaidd dir: Yn nhafodiaith nefoedd oleu Caf fi draethu 'mhlith y llu, Gyda blâs na ellir deall, Hen ddirgelion nefoedd fry.William Williams 1717-91
Tonau[8787D]: gwelir: Gwlad yw'r nef o swn gofidiau Minau bryfyn gwael o'r ddaear Nid oes terfyn ar flynyddau |
I love thee, gentle Jesus - Above every word to set it out Is thy love, is thy peace, Is thy immeasurable divine grace; In the language of bright heaven, I may expound, amidst the host, With a taste which is above understanding, The old secrets of heaven above. Then I may begin the story, The story of pure joy, Never is any end to it to be heard, In the paradisiacal land; Every minute shall be beginning To sound out without falling silent, The vast, immeasurable, delightful tunes, of the dear, crucified Lamb. Thy comeliness will be forever new, Ever newly kindled fire, Through all the ages of eternity, Ever without wearying henceforth; A passionate flame, without any limit, Through all the degrees of heaven the same, It will continue to burn brightly While God Himself endures. There is nothing but thy divine greatness, In heaven or on earth, Which could kindle such love As I am experiencing now; Who would establish my wavering spirit, Who would fix me in my place, But He, having no limit, Who is the perfection of earth and heaven? There shall be happiness wait, Without mixture, forever the same; The unchangeable object of love, Thus pure love itself; The same shall God be for an eternity - A sea of love with no ebbing; Like him shall be my happiness - Eternal, enduring. :: which is above understanding :: that cannot be understood :: Boundless, :: A streaming flood - - - - - Thy love, dear Jesus, is Above all words to be set forth; Boundless and eternal Is thy free, immeasurable grace: This is the fount of my joy Here in the vast desert; This shall be the theme of the sweet songs Of Zion, yonder at the journey's end. There I may sound the anthem, An anthem of pure joy; To which no end is ever to be heard In the paradisiacal land: In the language of the heaven of light I may expound amongst the throng, With a taste that cannot be understood, The old mysteries of heaven above.tr. 2008,20 Richard B Gillion |
|