'Rwy'n dy garu ti a'i gwyddost

1,2,3,4,(5),6,7;  1,3,6,7.
'Rwy'n dy garu, ti a'i gwyddost,
  'Rwy'n dy garu, f'Arglwydd mawr;
'Rwy'n dy garu yn anwylach
  Na'r gwrthrychau ar y llawr:
    Darllen yma
  Ar fy ysbryd waith dy law.

Nid oedd dim o fewn y ddaear,
  Nid oedd dim o fewn y nef,
Nid oedd bys wnai'r fath adeliad
  'N unig ond ei fysedd ef:
    Dymuniadau
  Ynt a ddaeth o fynwes Duw.

Fflam o dân o ganol nefoedd
  Yw, ddisgynnodd yma i'r byd,
Tan a lysg fy natur gyndyn,
  Tan a leinw f'eang fryd:
    Hwn nis ddiffydd
  Tra parhao Duw mewn bod.

F'enaid gwâg oedd gynt yn crwydro,
  Weithiau i'r dwyrain,
      weithiau i'r de;
Nid oedd dim a'i gwnai yn esmwyth
  'N unig ond ei gariad e':
    Anfeidroldeb
  All'sai'm llanw oll yn llyn.

Oni bai'th fod Di'n lân dy hunan,
  Arglwydd, imi yn ddigon mawr,
Mi addolwn ac a garwn
  Creaduriaid gwag y llawr
    D'ardderchowgrwydd
  'Barodd im ddod ar dy ôl.

P'le'r enynnodd fy nymuniad?
  P'le ca'dd fy serchiadau dân?
'B'le daeth hiraeth im' am bethau
  Fûm yn eu casáu o'r blaen? 
    Iesu, Iesu, 
  Cwbwl ydyw gwaith dy law.

Dymuniadau pell eu hamcan
  'Rwy'n eu teimlo yno'i 'nglyn;
Dacw'r ffynnon bur
    tarddasant
  Anfeidroldeb mawr ei hun:
    Dyma 'ngobaith
  Bellach byth y cânt barhau.
gwrthddrychau :: gwrthrychau
nis :: ni
P'le :: Ble
yno'i 'nglyn :: ynwy' 'nglyn

William Williams 1717-91

Tonau [878747]:
Corinth (Samuel Webbe 1740-1816)1792)
Godesberg (H Albert 1604-51)
Havilah (William Henry Havergal 1793-1870)
Peniel (alaw Gymreig)
Tamworth (Charles Lockhart 1745-1815)
Triumph (Henry John Gauntlett 1805-76)
Tyddyn Llwyn (Evan Morgan 1846-1920)

I love thee, thou who has known me,
  I love thee, my great Lord;
I love thee more dearly
  Than the objects on the earth:
    Read here
  On my spirit the work of thy hand.

There was nothing within the earth,
  There was nothing within heaven,
Not a finger would make such a building
  But only his finger:
    Wishes
  They have come from God's bosom.

A flame of fire from the centre of heaven
  It is, it descended here to the world,
A fire which burns my stubborn nature,
  A fire which fills my wide mind:
    This will not be extinguished
  While ever God continues in being.

My empty soul was once wandering,
  Sometimes to the east,
      sometimes to the south;
There was nothing which would sooth it
  But only his love:
    Immeasurable
  It could fill me all as a lake.

Unless thou thyself, Lord,
  Were to me all sufficient,
I would worship and love
  The empty creatures of the earth:
    Thy excellence
  Made me come after thee.

Where were my desires kindled?
  Where did my affections catch fire?
From where came a longing to me for things
  Which I hated before?
    Jesus, Jesus,
  Complete is the work of thy hand.

Desires of a distant purpose
  I am feeling here in my vale;
Here is the pure fount
    from which they issued
  Great Immeasurability himself:
    Here is my hope
  Henceforth they may forever endure.
::
::
::
::

tr. 2012,20 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~